Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet Powys yn cefnogi'r camau nesaf ar gyfer Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn unfrydol

Image of the River Severn in flood

19 Tachwedd 2025

Image of the River Severn in flood
Rhoddodd Cabinet Cyngor Sir Powys ei gefnogaeth lawn i gam mawr nesaf Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (CRhDDH) - y prosiect arloesol gwerth £10m i fynd i'r afael â llifogydd, prinder dŵr, a phwysau tir ar draws dalgylch uchaf Afon Hafren.

Dengys modelu diweddar gan CRhDDH, yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb eithafol, y gallai fod angen i'r rhanbarth reoli dros 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr llifogydd, sy'n ddigon i gyflenwi anghenion dyddiol hanner miliwn o bobl am bron i bedair blynedd.

Mae dadansoddiad annibynnol a gomisiynwyd gan CRhDDH hefyd yn awgrymu y gallai un digwyddiad llifogydd mawr yn nalgylch uchaf Afon Hafren arwain at risg sylweddol i seilwaith, busnesau a'r gymuned leol, gydag amcangyfrif o ddifrod economaidd-gymdeithasol rhwng £111 miliwn a £125 miliwn pe bai'n digwydd y flwyddyn nesaf, gan godi i gymaint â £231 miliwn erbyn 2050 wrth i risgiau hinsawdd ddwysáu.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys Jake Berriman wrth y Cabinet: "Mae hwn yn ddull partneriaeth o weithredu sy'n arwain y sector ac mae'r DU gyfan yn gwylio gyda diddordeb."

Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach, y papur a dywedodd: "Nid yw dŵr yn parchu ffiniau. Mae hyn yn dechrau ym Mhowys ac mae'n rhaid i ni wneud hyn. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â gwytnwch a bydd ganddo fudd economaidd yn ogystal â'r manteision natur ac amgylcheddol.

"Mae CRhDDH yn cynnig cyfle i leihau perygl llifogydd, hybu ffermio, gwella'r cyflenwad dŵr, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer ennill bioamrywiaeth, hamdden a busnes lleol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Charlton: "Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i Bowys a Sir Amwythig gydweithio a gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau."

Yn ei gyfarfod ar 18 Tachwedd, cytunodd y Cabinet yn unfrydol i:

  • Gadarnhau ymrwymiad y Cyngor fel partner allweddol ar Fwrdd Cyd-Brosiect CRhDDH, gan sicrhau bod cymunedau lleol ym Mhowys a Sir Amwythig yn elwa'n llawn o'r cynllun.
  • Cymeradwyo rownd newydd o ymgynghori gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid, gan wahodd trigolion, tirfeddianwyr, busnesau a sefydliadau lleol i roi eu barn ar y cynlluniau sydd ar y gweill.
  • Awdurdodi swyddogion i symud y cynllun yn ei flaen, gan weithio'n agos gyda phartneriaid drwy Bartneriaeth y Gororau Ymlaen i gynnal cydweithrediad trawsffiniol cryf.

Ynglŷn â CRhDDH: Menter drawsffiniol yw CRhDDH dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig, ac wedi'i hariannu gan Defra. Ei nod yw datblygu strategaeth rheoli dŵr holistaidd ar gyfer dalgylch uchaf afon Hafren, a allai fod yn fodel ar gyfer prosiectau tebyg ledled Prydain.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu