Ystyriaethau wrth ddewis Gofal Plant
'Dyw dewis rhywun i ofalu am eich plentyn fyth yn hawdd, ond mae'r dudalen hon yn cynnwys canllaw a fydd yn cynnig gwybodaeth i'ch helpu.
Pa fath o ofal plant?
Yn gyntaf oll mae angen i chi benderfynu pa fath o ofal plant sy'n addas ar gyfer eich anghenion a'ch amgylchiadau. Mae ein tudalen Mathau o Ofal Plant yn esbonio'r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael ym Mhowys, a pha amgylchiadau maen nhw fwyaf addas ar eu cyfer.
Pa wybodaeth ddylwn i ei cheisio am y grwp?
Cymaint ag y gallwch. Pan fyddwch yn ymweld â grwp, edrychwch o amgylch y lleoliad, treuliwch ddigon o amser yno a gofynnwch am gael gweld eu tystysgrifau cofrestru.
Yn ddelfrydol, ceisiwch ymweld â grwp pan fydd plant yno. Ydyn nhw'n ymddangos yn dawel eu meddwl, yn ddiogel, yn brysur, yn hapus, ac yn llawn diddordeb? Ydyn nhw'n chwarae gyda'i gilydd? Ydy'r staff yn gwrando, yn dangos diddordeb ac yn ymateb yn briodol? Ydy'r lleoliad yn lân ac mewn cyflwr da?
Beth fydd angen i mi ei wneud i ymuno â grwp?
Yn gyntaf oll, trefnwch i ymweld â'r grwp, i gyfarfod ag arweinydd y lleoliad ac i edrych o gwmpas. Fel arfer, bydd angen i chi drefnu dyddiad cychwyn ac amseroedd, yn ogystal â llofnodi contract i gytuno ar delerau gosod eich plenty yno.
Rwy'n dychwelyd i'r gwaith yr wythnos nesaf. A yw hi'n rhy hwyr i chwilio am le?
Nac ydy, ond mae gan lawer o grwpiau restr aros ac fe allech chi orfod aros am 6 mis neu ragor cyn y bydd lle ar gael yno. Yn ddelfrydol, dylech gysylltu â'r grwp rydych wedi'i ddewis mor fuan â phosibl, ac os oes rhestr aros ar ei gyfer dylech roi enw eich plentyn arno.
Rwy'n gwybod beth i'w wneud nawr. Ble caf i wybodaeth am yr hyn sydd ar gael?
Gallwch naill ai chwilio am grwp trwy chwilio ein rhestr gofalwyr plant ar-lein neu gysylltu â ni a gallwn anfon y wybodaeth atoch chi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Beth am y costau gofal plant?
Gallwch gael gwybodaeth am gymorth gyda chostau gofal plant ar wefan Dewisiadau Gofal Plant Y Swyddfa Dreth (HMRC). Os ydych yn dal mewn addysg siaradwch â'ch darparwr addysg neu Cyllid Myfyrwyr Cymru.