Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Mathau o Ofal Plant

Mae yna lawer o fathau o ofal plant i ddewis ohonyn nhw, felly mae'n bwysig dewis yr un mwyaf addas ar eich cyfer chi a'ch plentyn.
Image of a toddler reading with a woman

Pa fath bynnag a ddewiswch, byddem yn eich cynghori i sicrhau bod gennych gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparwr gofal plant, ac os yw'r grwp wedi'i gofrestru, gwnewch yn siwr eich bod yn gweld copi o'i dystysgrif cofrestru a'i dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Dyma ganllaw byr i'r hyn sydd ar gael ym Mhowys. 

 

Wedi'i gofrestru ynteu heb ei gofrestru?

Yng Nghymru (o Ebrill 2016) bydd angen i bob darpariaeth gofal plant sy'n gofalu am blant dan 12 oed am fwy na 2 awr y dydd gael ei chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae yna eithriadau ar gyfer gwasanaethau ieuenctid neu os yw'r gofalwr yn darparu hyfforddiant neu goetsio. Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â ni i wirio'r sefyllfa. Rydym yn cydweithio'n agos ag AGC i sicrhau bod gennym restr gynhwysfawr o'r ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael yn y Sir. 

 

 

Rhieni a Phlant Bach a Chylchoedd Ti a Fi.

Nod y cylchoedd Rhieni a Phlant Bach yw cynnig darpariaeth i rieni / gofalwyr gyfarfod â rhieni / gofalwyr eraill i helpu a chynorthwyo'i gilydd. Fel arfer bydd y plant dan 5 oed a bydd y cylchoedd yn cyfarfod unwaith yr wythnos yn ystod y tymor am ryw ddwyawr, gyda rhiant yn gyfrifol am arwain y grwp.

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn debyg o ran eu natur, ond maent yn annog defnydd o'r Gymraeg trwy straeon neu rigymau Cymraeg. Nid oes angen i'r rhieni allu siarad Cymraeg, a gallant ddysgu gyda'u plant.

Cylchoedd heb eu cofrestru yw Rhieni a Phlant Bach a Ti a Fi fel arfer. Cânt eu cynnal mewn neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol. Rydym yn ceisio cadw rhestr ohonynt ar ein cyfleuster chwilio am ofal plant, ond os credwch fod un ar goll, rhowch wybod i ni. 

 

 

Gwarchodwyr Plant

Bydd Gwarchodwyr Plant yn darparu gofal plant yn eu cartrefi eu hunain fel rheol ac meant yn hunangyflogedig. Bydd AGC yn eu harolygu'n rheolaidd i sicrhau bod eu cartref yn cadw at safonau caeth. Mae Gwarchodwyr Plant fel rheol yn fwy hyblyg gyda'u horiau ac yn fodlon agor yn gynt neu gau'n hwyrach. Bydd rhai hefyd yn codi'u plant o'r ysgol ac yn cynnig darpariaeth ar benwythnosau. Gallant ddarparu gofal dros nos, er bod rheoliadau penodol ar gyfer hyn. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

Mae rhestr o Warchodwyr Plant yn ein cyfleuster Chwilio am Ofal Plant.

 

 

Meithrinfeydd Dydd

Bydd Meithrinfeydd Dydd yn cael eu rhedeg mewn eglwysi, canolfannau cymunedol, ysgolion neu ganolfannau pwrpasol. Bydd y lleoliadau hyn wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo gan AGC. Bydd AGC hefyd yn gwirio: cymarebau staff:plant, hyfforddiant a diogelu. Bydd yr Arolygon yn cael eu cynnal yn flynyddol fel arfer, a bydd adroddiad yn cael ei ysgrifennu ar ôl pob ymweliad. Mae'r rhain i'w gweld ar wefan AGC.

Bydd Meithrinfeydd Dydd yn cael eu cynnal o 8am hyd 6pm fel rheol. Weithiau bydd gan Feithrinfa Ddydd glwb ar ôl ysgol, cylch chwarae, neu gylch rhieni a phlant bach yn gysylltiedig â hi. Mae'n bosibl y bydd wedi'i chofrestru fel Darparwr Blynyddoedd Cynnar hefyd, sy'n golygu y gallai eich plentyn fod yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer addysg yn 3 oed neu gyllid Dechrau'n Deg ar gyfer addysg yn 2 oed os ydych yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg. Cysylltwch â ni i weld a ydych yn gymwys ai peidio.

 


 

Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol a Chlybiau Gwyliau

Mae Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol yn cynnwys Clybiau Ar Ôl Ysgol a Chlybiau Brecwast sy'n cael eu cynnal mewn ysgolion fel rheol. Maent yn darparu hyd at hanner awr yn y bore a hyd at ddwyawr ar ôl ysgol. 'Dyw'r grwpiau hyn ddim ar gael ymhob ysgol.

Rhieni neu aelodau o staff cynorthwyol yr ysgol sy'n rhedeg y Clybiau Ar Ôl Ysgol fel arfer, a byddant yn codi tâl bychan am eu hamser neu'u treuliau. Bydd tâl ychwanegol am fyrbrydau.

Mae Clybiau Brecwast ar gael am ddim fel arfer, ond bydd rhai ohonynt yn codi tâl bychan, yn enwedig os ydynt ar agor am fwy na hanner awr.

Bydd Clybiau Gwyliau yn agor yn ystod gwyliau'r ysgol i blant oed ysgol. Bydd y rhain yn rhedeg o neuaddau cymunedol neu ysgolion fe arfer, a byddant wedi'u cofrestru. Yn aml, bydd gan glybiau gwyliau sesiynau strwythuredig, ac amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys celf a chrefft, tripiau a chwarae rhydd, felly mae'n bosibl y gallai'r ffioedd amrywio o ddydd i ddydd.

G allwch ddod o hyd i restr o ofal gwyliau a gofal y tu allan i oriau ysgol yn eich ardal leol ar ein cyfleuster chwilio am ofal plant.

 

 

Cylchoedd Chwarae a Chylchoedd Meithrin

Bydd cylchoedd chwarae'n darparu gofal sesiynol ar gyfer plant rhwng 2½ a 5 oed. Gallant hefyd ddarparu Addysg Blynyddoedd Cynnar i blant 3 oed. Dim ond yn ystod y tymor y byddant yn agor fel rheol, a bydd pob sesiwn yn rhedeg am ddim hyw na 4 awr. Bydd y rhai sy'n cynnal sesiynau dros 2 awr o hyd yn rhai cofrestredig.

Bydd Cylch neu Gylchoedd Meithrin yn cynnig darpariaeth debyg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall y plant sy'n mynychu'r sesiynau ddod o deuluoedd o gefndir ieithyddol amrywiol.

Bydd sesiynau'r grwpiau hyn yn cael eu cynnal mewn ysgolion neu ganolfannau cymunedol, ac mae rhai ohonyn nhw'n gysylltiedig â meithrinfa ysgol neu feithrinfa ddydd.

Mae rhestr o grwpiau lleol wedi'u rhestru ar ein cyfleuster Chwilio am Ofal Plant.

 


 

Nanis, Au Pairs a Gwarchodwyr (Babysitters)

Mae Nanis, Au Pairs a Gwarchodwyr (Babysitters) fel ei gilydd yn darparu gofal am blant yn eu cartrefi eu hunain. Nid oes angen iddyn nhw fod yn gofrestredig. Y cyflogwr sydd â'r cyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn addas a bod yr holl archwiliadau wedi'u cynnal. Fodd bynnag, mae AGGCC yn gweithredu  'Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol' y mae modd i ofalwyr yn y cartref ddod yn aelodau ohono, ac mae'r Cynllun hwn yn darparu rhywfaint o sicrwydd.

Nid ydym yn argymell eich bod yn defnyddio Nanis, Au Pairs na Gwarchodwyr (Babysitters) ac nid ydym yn cadw manylion y bobl sy'n cynnig y gwasanaethau yma.

Fodd bynnag, os ydych yn dewis defnyddio'r gwasanaethau yma, argymellwn eich bod i ddechrau yn gwirio bod ganddynt: Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, Trwydded Hawl i Weithio, Gwiriad Cofnod Troseddol (DBS), geirdaon y gallwch eu gwirio, cymhwyster (neu brofiad) gofal plant, yn ogystal â gwybodaeth ddigonol o fwyta'n iach a chynllunio gweithgareddau. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn eu talu'n gywir (gallwch geisio cyngor oddi wrth CThEM) a hefyd sicrhau bod gennych yr yswiriant priodol iddyn nhw weithio yn eich cartref chi. 

 

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu