'Rydyn Ni'n Siarad Allan' y Diwrnod Rhuban Gwyn hwn
20 Tachwedd 2025
Maent hefyd yn cael eu hannog gan elusen y Rhuban Gwyn i ddefnyddio eu lleisiau i greu byd lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn gyfartal a'u bod yn cael eu parchu, o dan y thema: 'Rydyn Ni'n Siarad Allan'.
Bydd y teithiau cerdded a drefnwyd gan y cyngor sir, i gefnogi'r mudiad Rhuban Gwyn byd-eang a Diwrnod y Rhuban Gwyn, yn dechrau am 12.30yp:
- Y Drenewydd - Canolfan Integredig i Deuluoedd, Stryd y Parc
- Llandrindod - Neuadd y Sir Powys, Spa Road East
- Aberhonddu - maes parcio Ffordd Dinas
Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r teithiau cerdded hyn yn gyfle pwerus i ni sefyll gyda'n gilydd, codi ymwybyddiaeth, a dangos ein cefnogaeth gyfunol i ddyfodol heb drais yn erbyn menywod a merched. Dewch i ni ddangos i bawb nad oes lle i eiriau a gweithredoedd wedi'u hysgogi gan gasineb yn ein cymunedau."
Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad sydd wedi'i achredu gan y Rhuban Gwyn sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng nghymunedau Powys, gwella ei ddiwylliant ei hun yn y gweithle a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.
Mae'r Rhuban Gwyn yn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched drwy annog dynion a bechgyn i wneud newidiadau i'r ffordd y maent yn gweithredu ac ymddwyn: https://www.whiteribbon.org.uk/
Eleni, mae'n tynnu sylw at y canlynol:
- Bydd un o bob pedair menyw yn dioddef ymosodiad rhywiol neu ymgais i ymosod yn ystod eu hoes. (Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2025)
- Dywedodd 39% o'r athrawon ysgol uwchradd eu bod yn ymwybodol o o leiaf un digwyddiad o ymddygiad gwreig-gasaol gan ddisgybl yn ystod yr wythnos ddiwethaf. (BBC, 2025)
- Mae tair o bob pum menyw wedi profi aflonyddu rhywiol, bwlio neu gam-drin geiriol yn y gweithle. (Cyngres Undebau Llafur, 2023)
Ychwanegodd y Cynghorydd Dorrance, sy'n un o Lysgenhadon Arweiniol Rhuban Gwyn y cyngor: "Gallai jôcs rhywiaethol, sŵn neu ystum amhriodol, syllu a sylwadau ymddangos yn ddiniwed, ond maent yn ddifrifol oherwydd gallant arwain at drais a cham-drin.
"Bob tro rydyn ni'n anwybyddu rhywbeth nad yw'n teimlo'n iawn, rydym yn colli cyfle i osod gwell esiampl."
Dysgwch fwy am thema'r Rhuban Gwyn eleni: https://www.whiteribbon.org.uk/wespeakup
Er nad oes taith gerdded yn Y Trallwng eleni, mae cyngor y dref wedi trefnu gwylnos yng ngolau cannwyll a fydd yn digwydd y tu allan i neuadd y dref am 5yh.
Yn ardal Aberhonddu, cynhelir Gwasanaeth Rhuban Gwyn yn Eglwys Dewi Sant, Llanfaes, am 2.30yp ar ddydd Sul 30 Tachwedd.
PENNAWD LLUN: Taith cerdded y llynedd yn Aberhonddu.
