Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Neges gan Y Deilydd Portffolio Tai

councillor tab

Rydym wedi gwneud cynnydd da eleni tuag at ein cynllun Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer Powys a hoffwn ddiolch i chi am bopeth rydych yn ei wneud i ofalu am eich cartref a'ch cymuned. 

Rydym wedi lansio Arolwg Cyflwr Stoc (SCS) newydd i sicrhau bod ein cartrefi yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2023. Mae'r fenter hon yn ein helpu i asesu cyflwr ein stoc tai a chynllunio gwelliannau sydd bwysicaf i denantiaid. 

Mae'r SCS yn cefnogi cynllunio gwell ar gyfer atgyweiriadau ac uwchraddio ac yn ein helpu i wella effeithlonrwydd ynni. Mae hefyd yn cyfrannu at ein nodau datgarboneiddio drwy greu Llwybrau Ynni Targed (TEPs) ar gyfer pob cartref — gan helpu i leihau biliau a gwella cyfforddusrwydd. 

Mae'r arolwg yn allweddol i gyrraedd WHQS. Rydym yn defnyddio system ddigidol newydd i gasglu data yn fwy effeithlon a gwella ansawdd. Mae hyn yn golygu gwell cynllunio a mwy o hyder bod ein cartrefi'n bodloni'r safonau y mae tenantiaid yn eu haeddu. 

Rydym yn gwrando. Mae adborth o'r arolygon treialu eisoes wedi llunio'r prosiect, ac rydym yn gweithio gyda'r Panel Craffu Tenantiaid i gasglu mwy o fewnwelediadau. Os ydych wedi derbyn arolwg neu a syniadau am y broses, rydym am glywed gennych. 

Bydd diwedd eleni yn dod â newid sylweddol i'r Gwasanaeth Tai wrth i ni ffarwelio â'n Pennaeth Gwasanaeth Andy Thompson.  Mae Andy yn ymddeol a hoffwn ddymuno ymddeoliad hir a hapus iddo. 

Rwy'n canmol Andy a'i ymroddiad i Dai'r Cyngor. Mae Gwasanaeth Tai'r Cyngor y mae'n ei adael yn llawer cryfach diolch i'w ofal, sylw i fanylion ac arbenigedd. 

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn ymgymryd â phroses i recriwtio olynydd i Andy, ac rwy'n falch bod gan denantiaid ran allweddol yn y broses recriwtio. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw ein Pennaeth Tai newydd yn y rhifyn nesaf. 

Gyda dymuniadau gorau, 

Y Cyng. Matthew Dorrance                                                                                            

Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu