Archwiliadau Arolygu Statudol
Er mwyn eich cadw'n ddiogel ac fel landlord cyfrifol, rydym yn cynnal gwiriadau archwiliad diogelwch rheolaidd ar eich gwifrau trydanol, systemau gwresogi a larymau mwg.
Gall y gwiriadau hyn achub bywydau, ac maent yn gwneud hynny. Os byddwch yn derbyn llythyr neu alwad ffôn i drefnu apwyntiad i gynnal yr archwiliadau hyn, trefnwch nhw cyn gynted â phosibl. Gellir gwneud apwyntiadau i fod yn gyfleus i chi.
Mae'r rhan fwyaf o'n tenantiaid yn gwneud hyn. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gan ein tenantiaid fywydau prysur ac yn wirioneddol yn anghofio ein ffonio'n ôl, ac eto mae eraill nad ydynt am gysylltu â ni, a gallai hyn fod am nifer o resymau; gall fod ganddynt broblemau ariannol, yn poeni am symud darnau mawr o ddodrefn, bod ganddynt ystafelloedd sy'n anniben ac ati. Beth bynnag yw eich pryderon, siaradwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cefnogi a darparu ar eich cyfer.
Os byddwn wedi ceisio cysylltu â chi nifer o weithiau ac nad ydym wedi gallu siarad â chi dros y ffôn neu e-bost, nid oes gennym ddewis arall ond dilyn ein cam nesaf yn y broses, sef gwneud cais i'r llysoedd er mwyn cael mynediad i'ch cartref. Yn ddiweddar cafodd rhai tenantiaid ddirwy o £1,000 gan y Llysoedd am beidio â chaniatáu i ni gael mynediad i gynnal archwiliadau diogelwch trydanol.
Peidiwch â gohirio'r gwiriadau hyn, codwch y ffôn neu e-bostiwch ni ar 01597 827464 neu housing@powys.gov.uk neu heating.servicing@powys.gov.uk a gwneud yr apwyntiad hwnnw i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel.
Mae cael mynediad at wasanaethu eich nwy yn ofyniad cyfreithiol
Fel Cyngor, rydym yn cael anhawster i gael mynediad i rai eiddo i wneud yr archwiliad diogelwch nwy blynyddol.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol a bydd methu â chaniatáu mynediad yn arwain at achos Llys yn cael ei gymryd yn eich erbyn. Os eir â chi i'r Llys, chi fydd yn gyfrifol am gostau hyn sy'n debygol o fod ymhell dros £500.
Ymatebwch i unrhyw gardiau neu lythyrau rydych yn eu derbyn naill ai gan gontractwyr y Cyngor neu'r Cyngor yn uniongyrchol ynghylch mynediad. Mae methu â chael archwiliad diogelwch nwy blynyddol nid yn unig yn eich rhoi mewn perygl ond hefyd eich cymdogion.
