Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Yn eich Cartref

Repairs in your home

Lifftiau Grisiau, Teclynnau Codi a Lifftiau 

Os oes gennych unrhyw offer codi yn eich cartref, e.e. lifftiau grisiau, teclynnau codi, mae pob eitem yn gofyn am ddau ymweliad y flwyddyn gan un o'n contractwyr proffesiynol cydnabyddedig.  

Byddwch yn cael gwasanaeth blynyddol, ac un archwiliad byrrach gan beiriannydd annibynnol. 

Mae'n bwysig na chollir y gwasanaethau a'r archwiliadau hyn gan eu bod yn sicrhau bod yr offer yn gweithio'n ddiogel. Os nad ydych wedi cael gwasanaeth eto neu'n ansicr a yw'r rhain wedi'u cynnal, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01597 827464. 

Toiledau Golchi a Sychu 

Mae toiledau arbenigol yn gofyn am wasanaeth blynyddol i sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir ac yn ddiogel i chi eu defnyddio.  Os oes gennych doiled golchi a sychu nad yw wedi cael gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yna cysylltwch â ni ar 01597 827464. 

Diogelwch Dŵr 

Mae ffyrdd cyflym a hawdd o ddiogelu eich hun rhag salwch a gludir gan ddŵr yn cynnwys: 

Sicrhau bod eich dŵr poeth yn rhedeg yn boeth (dros 65'C) a bod eich dŵr oer yn rhedeg yn oer (o dan 15'C) yn gyflym ar ôl agor y tap.  Os yw eich dŵr yn cymryd amser hir i wresogi, efallai y bydd problem gyda'ch boeler, felly cysylltwch â ni i drefnu archwiliad. 

Os ydych chi wedi bod i ffwrdd am ychydig ddyddiau, mae'n syniad da rhedeg y tapiau yn eich tŷ am ychydig funudau i lifolchi unrhyw ddŵr sydd wedi bod yn y pibellau tra roeddech i ffwrdd.  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu