Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS)
Toeau yn Llys Derw, Tregynon
Mae ein contractwr, SWG, a benodwyd gan WHQS, wedi cwblhau gwaith toi yn llwyddiannus ar y byngalos yn Llys Derw, Tregynon—mewn pryd ar gyfer y misoedd oerach o'n blaen.
Bydd y toeau newydd yn helpu i leihau colli gwres, gan wneud y cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni a helpu preswylwyr i arbed costau tanwydd. Mae'r uwchraddio wedi'i gynllunio i barhau am ddegawdau, gan gynnig tawelwch meddwl a chyfforddusrwydd drwy'r gaeaf a thu hwnt.
Dyma enghraifft arall o'n buddsoddiad parhaus i wella ansawdd a chynaliadwyedd ein stoc dai.
Enillydd Gwobr Boddhad Tenantiaid WHQS
Llongyfarchiadau i Mrs Jones o Lys Jaundrell, y Drenewydd, enillydd lwcus y raffl fawr eleni â gwobr o £100! Cymerodd Mrs Jones ran yn y raffl fawr ar ôl cwblhau a dychwelyd ei holiadur boddhad yn dilyn gwaith Inswleiddio Waliau Allanol a wnaed ar ei heiddo.
Os hoffech fod â chyfle i ennill y flwyddyn nesaf, cofiwch lenwi a dychwelyd unrhyw holiaduron boddhad a gewch ar ôl gwaith gwella i'ch cartref. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni—mae'n ein helpu i wella ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
