Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Cyllideb Powys wedi'i Lansio

Arolwg Cyllideb Powys Budget Survey

4 Rhagfyr 2025

Arolwg Cyllideb Powys Budget Survey
Gwahoddir pobl Powys i rannu eu barn ar sut y dylid gwario arian ar wasanaethau lleol ar gyfer y flwyddyn 2026-27 a thu hwnt, meddai'r cyngor sir.

Bydd adborth yn helpu i lunio penderfyniadau ar flaenoriaethau fel ysgolion, gofal i bobl hŷn, a chynnal a chadw ffyrdd, gan ein helpu i adeiladu Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach lle mae pob llais yn llunio dyfodol ein cymunedau a'r gwasanaethau sy'n bwysicaf

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Cyngor osod cyllideb sy'n pennu faint o gyllid sy'n cael ei ddyrannu i wasanaethau hanfodol. Oherwydd bod Powys yn ardal wledig fawr, mae'n costio mwy i ddarparu gwasanaethau yma nag mewn trefi a dinasoedd mawr.

"Gyda phwysau ariannol cynyddol, rydym yn wynebu dewisiadau anodd wrth i ni weithio i fantoli'r gyllideb gan ddiogelu gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Hoffem glywed eich syniadau ar gyfer gwelliannau, cynilion, neu ffyrdd o godi incwm ychwanegol. Bydd eich mewnbwn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt."

Sut i gymryd rhan:

Mae'r arolwg yn cau am hanner nos ddydd Sul 4 Ionawr 2026.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu