Arolwg Cyllideb Powys wedi'i Lansio
4 Rhagfyr 2025
Bydd adborth yn helpu i lunio penderfyniadau ar flaenoriaethau fel ysgolion, gofal i bobl hŷn, a chynnal a chadw ffyrdd, gan ein helpu i adeiladu Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach lle mae pob llais yn llunio dyfodol ein cymunedau a'r gwasanaethau sy'n bwysicaf
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Cyngor osod cyllideb sy'n pennu faint o gyllid sy'n cael ei ddyrannu i wasanaethau hanfodol. Oherwydd bod Powys yn ardal wledig fawr, mae'n costio mwy i ddarparu gwasanaethau yma nag mewn trefi a dinasoedd mawr.
"Gyda phwysau ariannol cynyddol, rydym yn wynebu dewisiadau anodd wrth i ni weithio i fantoli'r gyllideb gan ddiogelu gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Hoffem glywed eich syniadau ar gyfer gwelliannau, cynilion, neu ffyrdd o godi incwm ychwanegol. Bydd eich mewnbwn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt."
Sut i gymryd rhan:
- Cwblhewch yr arolwg arlein: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cyllideb-powys
- Mae copïau Papur a Hawdd eu Darlleno'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o lyfrgell ym Mhowys. Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch ac ebostiwch nhw at haveyoursay@powys.gov.uk.
Mae'r arolwg yn cau am hanner nos ddydd Sul 4 Ionawr 2026.
