Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn agor ymgynghoriad ar strategaeth sy'n esblygu
9 Rhagfyr 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrech barhaus i ddatblygu strategaeth i leihau'r perygl o lifogydd, tra'n darparu manteision eang i bobl a'r amgylchedd ar draws ardal yr Hafren Uchaf.
Mae dadansoddiadau data wedi helpu adnabod patrymau tywydd a gwneud rhagfynegiadau am newidiadau tebygol yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Mae'r data hwn yn dangos, er mwyn lleihau'r risg o lifogydd i gymunedau, y bydd angen storio hyd at 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr dros dro yn ystod llifogydd - sy'n cyfateb i 40,000 o byllau nofio Olympaidd.
Mae hyn yn cynnwys dynodi ymhle y bydd y dŵr yn cael ei storio dros dro, faint o ddŵr, ac am ba hyd. Mae hyn wedi bod yn hanfodol i ddeall beth sy'n bosibl.
Er mwyn diwallu'r her hon, bydd angen cyfuniad o atebion naturiol a pheirianyddol ar gyfer ardaloedd storio dŵr dros dro wedi'u teilwra i anghenion unigryw pob ardal.
Dywedodd David McKnight, noddwr SVWMS a rheolwr perygl llifogydd a risg llifogydd arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd: "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu dull holistaidd o reoli perygl llifogydd ac archwilio sut y gellir darparu prosesau naturiol ar raddfa a'u hategu gan ddulliau peirianneg traddodiadol. Rydym yn gwybod bod afonydd yn yr ardal yn ganolog i fywyd lleol, gan gefnogi cartrefi, ffermydd, busnesau a bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn dyfod yn amlach ac yn fwy difrifol a dyna pam mae'r gwaith hwn yn hanfodol."
Mae SVWMS wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda phawb sydd wedi ac a fydd yn cael eu heffeithio, i wrando ar brofiadau, a deall blaenoriaethau a phryderon lleol. Anogir pobl i ddweud eu dweud yn ystod yr ymgynghoriad sy'n rhedeg o 17 Rhagfyr 2025 i 11 Mawrth 2026.
Wedi'i gyflwyno gan bartneriaeth o gydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Amwythig, mae SVWMS yn benderfynol o ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng ymyriadau yn seiliedig ar natur ac ymyriadau peirianyddol.
Dywedodd Jake Berriman, arweinydd Cyngor Sir Powys: "Llifogydd yw un o'r heriau mwyaf brys ein rhanbarth, ac mae hwn yn gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth ar raddfa fawr. Drwy gyfuno atebion naturiol a pheirianyddol, gallwn leihau'r perygl o lifogydd, adfer cynefinoedd, a gwella ansawdd dŵr, gan greu lleoedd mwy diogel a gwydn i bobl a natur. Mae cynnwys y gymuned yn gwbl hanfodol. Dim ond drwy wrando ar leisiau lleol a gweithio mewn partneriaeth y gallwn ni sicrhau bod pob cam gweithredu yn darparu buddion lluosog, gan helpu i ddiogelu cartrefi a bywoliaethau tra'n gwella ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae SVWMS wedi addo y bydd pob ateb yn cael ei gynllunio i fod yn sensitif i anghenion lleol ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl, natur a'r economi leol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Berriman: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb gan gynnwys trigolion unigol, ffermwyr, perchnogion busnes a grwpiau cymunedol, i helpu i lunio dyfodol rheoli dŵr yn ardal Hafren Uchaf."
Cynhelir digwyddiadau ymgynghori ar draws y dalgylch, ac mae deunyddiau ar gael ar-lein ac mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol.
Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn darparu gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer datblygu'r strategaeth ddrafft, a fydd yn cael ymgynghoriad pellach yn 2026.
Mae rhagor o wybodaeth, deunyddiau'r ymgynghoriad a ffurflenni adborth ar gael yn: Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren
Gellir cyfeirio ymholiadau a sylwadau at SVWMS@environment-agency.gov.uk
Ynglŷn â SVWMS: Menter drawsffiniol yw SVWMS dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig, ac wedi'i hariannu gan Defra. Ei nod yw datblygu strategaeth rheoli dŵr holistaidd ar gyfer Hafren Uchaf, a allai fod yn fodel ar gyfer prosiectau tebyg ledled y wlad.
