Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd llinellau ffôn Treth Cyngor ac Ardrethi Busnes, Asesiad Ariannol Gofal Cymdeithasol a llinellau Gorfodi (Adennill) ar gau ar 10 Rhagfyr 2025 oherwydd hyfforddiant staff.

Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn agor ymgynghoriad ar strategaeth sy'n esblygu

Image of the River Severn in Hafren Forest

9 Rhagfyr 2025

Image of the River Severn in Hafren Forest
Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ganfyddiadau ei strategaeth sy'n esblygu.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrech barhaus i ddatblygu strategaeth i leihau'r perygl o lifogydd, tra'n darparu manteision eang i bobl a'r amgylchedd ar draws ardal yr Hafren Uchaf.

Mae dadansoddiadau data wedi helpu adnabod patrymau tywydd a gwneud rhagfynegiadau am newidiadau tebygol yn yr hinsawdd yn y dyfodol.  Mae'r data hwn yn dangos, er mwyn lleihau'r risg o lifogydd i gymunedau, y bydd angen storio hyd at 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr dros dro yn ystod llifogydd - sy'n cyfateb i 40,000 o byllau nofio Olympaidd.

Mae hyn yn cynnwys dynodi ymhle y bydd y dŵr yn cael ei storio dros dro, faint o ddŵr, ac am ba hyd.  Mae hyn wedi bod yn hanfodol i ddeall beth sy'n bosibl.

Er mwyn diwallu'r her hon, bydd angen cyfuniad o atebion naturiol a pheirianyddol ar gyfer ardaloedd storio dŵr dros dro wedi'u teilwra i anghenion unigryw pob ardal.

Dywedodd David McKnight, noddwr SVWMS a rheolwr perygl llifogydd a risg llifogydd arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd: "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu dull holistaidd o reoli perygl llifogydd ac archwilio sut y gellir darparu prosesau naturiol ar raddfa a'u hategu gan ddulliau peirianneg traddodiadol. Rydym yn gwybod bod afonydd yn yr ardal yn ganolog i fywyd lleol, gan gefnogi cartrefi, ffermydd, busnesau a bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn dyfod yn amlach ac yn fwy difrifol a dyna pam mae'r gwaith hwn yn hanfodol."

Mae SVWMS wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda phawb sydd wedi ac a fydd yn cael eu heffeithio, i wrando ar brofiadau, a deall blaenoriaethau a phryderon lleol. Anogir pobl i ddweud eu dweud yn ystod yr ymgynghoriad sy'n rhedeg o 17 Rhagfyr 2025 i 11 Mawrth 2026.

Wedi'i gyflwyno gan bartneriaeth o gydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Amwythig, mae SVWMS yn benderfynol o ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng ymyriadau yn seiliedig ar natur ac ymyriadau peirianyddol.

Dywedodd Jake Berriman, arweinydd Cyngor Sir Powys: "Llifogydd yw un o'r heriau mwyaf brys ein rhanbarth, ac mae hwn yn gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth ar raddfa fawr. Drwy gyfuno atebion naturiol a pheirianyddol, gallwn leihau'r perygl o lifogydd, adfer cynefinoedd, a gwella ansawdd dŵr, gan greu lleoedd mwy diogel a gwydn i bobl a natur. Mae cynnwys y gymuned yn gwbl hanfodol. Dim ond drwy wrando ar leisiau lleol a gweithio mewn partneriaeth y gallwn ni sicrhau bod pob cam gweithredu yn darparu buddion lluosog, gan helpu i ddiogelu cartrefi a bywoliaethau tra'n gwella ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae SVWMS wedi addo y bydd pob ateb yn cael ei gynllunio i fod yn sensitif i anghenion lleol ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl, natur a'r economi leol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Berriman: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb gan gynnwys trigolion unigol, ffermwyr, perchnogion busnes a grwpiau cymunedol, i helpu i lunio dyfodol rheoli dŵr yn ardal Hafren Uchaf."

Cynhelir digwyddiadau ymgynghori ar draws y dalgylch, ac mae deunyddiau ar gael ar-lein ac mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol.

Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn darparu gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer datblygu'r strategaeth ddrafft, a fydd yn cael ymgynghoriad pellach yn 2026.

Mae rhagor o wybodaeth, deunyddiau'r ymgynghoriad a ffurflenni adborth ar gael yn: Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren

Gellir cyfeirio ymholiadau a sylwadau at SVWMS@environment-agency.gov.uk

Ynglŷn â SVWMS: Menter drawsffiniol yw SVWMS dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig, ac wedi'i hariannu gan Defra. Ei nod yw datblygu strategaeth rheoli dŵr holistaidd ar gyfer Hafren Uchaf, a allai fod yn fodel ar gyfer prosiectau tebyg ledled y wlad.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu