Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadeirydd y Cyngor yn talu teyrnged i'r Fonesig Shân Legge-Bourke

Picture of Dame Shân Legge-Burke

16 Rhagfyr 2025

Picture of Dame Shân Legge-Burke
Wrth dalu teyrnged i'r Anrhydeddus Fonesig Shân Legge-Bourke, sydd wedi marw yn 82 oed, dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd William Powell: "Mae marwolaeth yr Anrhydeddus Fonesig Shân Legge-Bourke - Mrs LB neu dim ond Shân fel yr oedd yn cael ei hadnabod gan filoedd - yn teimlo fel diwedd cyfnod go iawn.

"Bydd y sefydliadau niferus a fu'n gwasanaethu, fel Noddwr, Llywydd neu Gefnogwr, yn ei cholli hi, fel y bydd eu haelodau. Roedd yr un mor boblogaidd ac yn cael ei pharchu gan siopwyr lleol yn ei hannwyl Crughywel, crefftwyr a gweithwyr ar Ystad Glanusk a disgyblion mewn ysgolion lleol ag yr oedd ymhlith y bonedd ac mewn cylchoedd Brenhinol.

"Roedd hi'n llais annibynnol heb ofn ac yn amddiffynnydd y ffordd wledig o fyw, a oedd dan fygythiad yn ei barn hi. Ni fydd neb yn gallu cymryd ei lle ac nid yw'n syndod felly fod PAVO, corff sector gwirfoddol Powys a fu hi'n ei gwasanaethu mor ddiwyd fel Llywydd tan 2021, wedi dewis peidio â phenodi olynydd ar ei hymddeoliad.

"Fodd bynnag, y nodwedd fwyaf y byddaf bob amser yn ei chysylltu â Shân - hyd yn oed mwy na'i chyfradd waith a'i chariad at ei brodorion yn Sir Frycheiniog - oedd ei llwyr ymdeimlad o ddyletswydd. 

"Y tro olaf i mi weld Shân - yng Nghinio'r Llywydd yn y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf - roedd hi'n amlwg yn fregus. Fodd bynnag, gyda'i mab Harry wrth ei hochr, roedd ganddi benderfyniad llwyr i wneud ei dyletswydd a chroesawu ei ffrind, y Dywysoges Frenhinol, i Lanelwedd.

"Yn bwysicach na thapestri cyfoethog ei bywyd cyhoeddus, fodd bynnag, roedd Shân yn wraig deyrngar, ymroddedig i'r diweddar Bill Legge-Bourke a mam a mam-gu balch. Wrth i ni gofio Shân, rhaid inni hefyd fynegi ein cydymdeimlo diffuant â Tiggy, Zara, a Harry a'u teuluoedd priodol, a fydd yn galaru ei cholled difrifol.

"Yr Anrhydeddus Fonesig Shân Legge Bourke 1943 - 2025 Gorffwys yn Dawel - ni welwn mo'ch tebyg eto."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu