Canslo Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy
18 Rhagfyr 2025
Roedd disgwyl i'r pwyllgor ystyried yr Adroddiad Effaith Leol ar gyfer datblygiad parc ynni arfaethedig Nant Mithil.
Fodd bynnag, derbyniwyd gohebiaeth gan Benderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW) yn cadarnhau bod y cais gan Barc Ynni Nant Mithil Cyfyngedig wedi'i atal am naw wythnos.
Bydd y cyfnod penderfynu bellach yn ailddechrau ar 16 Chwefror 2026, gyda manylion cyfnod ymgynghori newydd i'w cadarnhau gan PEDW yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Bydd cyfarfod y pwyllgor yn cael ei aildrefnu unwaith y bydd cadarnhad pellach wedi'i dderbyn.
