Dyddiadau i'r dyddiadur ar gyfer cynllun newydd Strategaeth Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren
19 Rhagfyr 2025
Mae'r sesiynau hyn, a gynhelir drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2026, yn rhan allweddol o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth newydd CRhDDH i leihau perygl llifogydd a sicrhau manteision eang i bobl a'r amgylchedd. Lansiwyd yr ymgynghoriad arlein ar 17 Rhagfyr 2025 ac mae'n rhedeg tan 11 Mawrth 2026.
Amlygodd dadansoddiad data diweddar yr angen dybryd i storio hyd at 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr dros dro yn ystod llifogydd - sy'n cyfateb i 40,000 o byllau nofio Olympaidd.
Bydd tîm CRhDDH wrth law i ddarparu cyfleoedd i'r cyhoedd ddysgu mwy am y strategaeth sydd ar y gweill, gofyn cwestiynau, a rhannu eu barn ar ddatrysiadau arfaethedig. Mae CRhDDH wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda phawb a effeithir, gan sicrhau bod yr holl ymyriadau, boed yn seiliedig ar natur neu wedi'u peiriannu, wedi'u cynllunio i fod yn sensitif i anghenion lleol a sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl, natur a'r economi leol.
Pwysleisiodd Jake Berriman, arweinydd Cyngor Sir Powys, y pwysigrwydd o gynnwys y gymuned: "Gwyddom fod afonydd yn yr ardal yn ganolog i fywyd lleol, yn cefnogi cartrefi, ffermydd, busnesau a bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn amlach ac yn fwy difrifol, ac mae'r risg i gymunedau yn cynyddu.
"Mae cynhyrchu bwyd yn y ddaearyddiaeth hon yn hanfodol ac mae hwn yn gyfle i helpu i leihau rhai o'r risgiau a all herio'r cynhyrchiad hwnnw.
"Mae maint yr her yn sylweddol, ac mae'r symiau o ddŵr i'w rheoli yn enfawr, ond ein bwriad yw dod o hyd i ddulliau sy'n gweithio gyda, ac yn ategu, arferion fferm sy'n bodoli eisoes tra'n cynhyrchu ffrydiau refeniw newydd ac ychwanegol.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb, gan gynnwys trigolion unigol, ffermwyr, perchnogion busnes a grwpiau cymunedol, i helpu i lunio nid yn unig ddyfodol rheoli dŵr yn nalgylch uchaf yr Afon Hafren, ond sut i ddiogelu ein heconomi yn y dyfodol."
Mae'r digwyddiadau ymgynghori, sydd i gyd yn rhedeg o 2yp hyd 7yh, wedi'u trefnu ar gyfer:
- Ionawr 6, 2026 - Melverley, Neuadd Bentref Melverley, Croesoswallt, SY10 8P
- Ionawr 13, 2026 - Betws, Neuadd Bentref Betws, Betws Cedewain, Y Drenewydd, Powys, SY16 3DS
- Ionawr 15, 2026 - Y Trallwng, Neuadd y Dref, 42 Stryd Lydan, Y Trallwng, SY21 7JQ
- Ionawr 20, 2026 - Yr Amwythig, Theatr Severn yr Amwythig, Frankwell, Yr Amwythig SY3 8FT
- Ionawr 28, 2026 - Caersws, Eglwys Bresbyteraidd Caersws, Stryd Fawr, Caersws, SY17 5EN
- Ionawr 30, 2026 - Minsterley, Neuadd y Plwyf Minsterley, Yr Amwythig SY5 0EH
- Chwefror 4, 2026 - Croesoswallt, Clwb Criced Croesoswallt, Morda Rd, Croesoswallt SY11 2AY
- Chwefror 9, 2026 - Llanfyllin, Llyfrgell Llanfyllin a Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol, Adeiladau'r Cyngor, Llanfyllin, SY22 5DB
- Chwefror 12, 2026 - Llanidloes, Prosiect Hanging Gardens, Stryd Bethel, Llanidloes, SY18 6BS
Bydd deunyddiau ymgynghori hefyd ar gael arlein ac mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol ym Mhowys a Sir Amwythig. Bydd adborth a gesglir yn ystod y sesiynau hyn yn hysbysu datblygiad y strategaeth ddrafft yn uniongyrchol, a fydd wedyn yn cael ymgynghoriad pellach yn 2026.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys deunyddiau'r ymgynghoriad a ffurflenni adborth, ewch i: www.severnvalleywatermanagementscheme.commonplace.is./cy-GB
Gellir cyfeirio ymholiadau at: SVWMS@environment-agency.gov.uk
