Cais am hyb y Drenewydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru
19 Rhagfyr 2025
Mae cyflwyno'r cynllun (a elwir yn Achos Busnes Amlinellol) yn dilyn penderfyniadau gan Gabinet Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 16 Rhagfyr 2025 i gefnogi'r cais.
Os caiff y cais am gyllid ei gymeradwyo, a bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi, yna gallai'r gwaith adeiladu ddechrau mor gynnar â 2027.
Byddai'r hyb newydd arfaethedig, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle swyddfeydd Y Parc, yn gweld ystod eang o wasanaethau'n cael eu darparu dan un to mewn amgylchedd modern, pwrpasol. Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a lles "siop un stop", mae'r cynlluniau'n cynnwys cyfleusterau hyfforddi newydd i recriwtio a chadw staff iechyd a gofal, gwasanaethau deintyddol cymunedol estynedig, a chlinigau arbenigol newydd ar gyfer pobl â chyflyrau hirdymor sy'n lleihau'r angen i deithio allan o'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.
Mae'r hyb hefyd yn gam hanfodol tuag at ail gam yn y dyfodol a fyddai'n gweld ysbyty newydd yn y dref gan gynnwys cyfleusterau diagnosteg a thriniaeth estynedig fel bod mwy o ofal a thriniaeth yn cael eu darparu ym Mhowys.
Gallwch gofrestru i gael diweddariadau rheolaidd ar y prosiect gan Raglen Lles Gogledd Powys (partneriaeth rhwng y bwrdd iechyd a'r cyngor sir) drwy gysylltu â powyswellbeing.north@wales.nhs.uk
Ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer cyfleusterau iechyd a lles newydd yn y Drenewydd, mae Rhaglen Lles Gogledd Powys hefyd yn datblygu cynlluniau ehangach i wella iechyd a lles yng Ngogledd Powys. Mae hyn yn cynnwys llety newydd i fyfyrwyr a gweithwyr iechyd a gofal yn y dref, yn ogystal â llety â chymorth.
Mae rhagor o wybodaeth am raglen Lles Gogledd Powys ar gael o wefan Lles Gogledd Powys.
