Gwaith ar gynlluniau teithio llesol i ddechrau yn y flwyddyn newydd
22 Rhagfyr 2025
Bydd cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Theithio Llesol diweddaraf Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru, yn galluogi gwaith i ddechrau ar y ddau gynllun canlynol mor gynnar â mis Ionawr 2026:
Cynllun Teithio Llesol Ffordd Dolfor Y Drenewydd
Bydd y cynllun hwn yn gwneud gwelliannau i'r droedffordd bresennol ar Ffordd Dolfor, rhwng Lôn y Blanhigfa a phont y rheilffordd. Bydd y prosiect hefyd yn gosod croesfan ffordd i gysylltu'n uniongyrchol â llwybrau Teithio Llesol Treowen a sefydlu seilwaith gwyrdd ar hyd y llwybr.
Cynllun Teithio Llesol Ffordd Llangurig/Heol Smithfield Llanidloes
Bydd y cynllun hwn yn uwchraddio'r droedffordd bresennol o Faes Parcio'r Gro i Ffordd Llangurig, gan gysylltu'n uniongyrchol â'r llwybr cyd-ddefnyddio a osodwyd ar Ffordd Llangurig yn 2024/25. Ar ôl ei gwblhau, bydd y llwybr yn llwybr teithio llesol parhaus rhwng y maes parcio a'r ysgolion, gan wella hygyrchedd, a chaniatáu i fwy o ddisgyblion a'u teuluoedd gerdded neu seiclo'n ddiogel i'r ysgol ac oddi yno. Mae hefyd yn debygol o helpu i leihau tagfeydd traffig ar Ffordd Llangurig ar adegau prysur.
"Gyda gwaith ar y cynlluniau hyn ar fin dechrau, ry'n ni falch iawn o barhau â'r momentwm ar deithio llesol ac ehangu'r rhwydwaith cynyddol o lwybrau o fewn y sir." esboniodd Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir fod rhaid i deithio llesol bod y dull naturiol o ddewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd fel ein taith i'r gwaith, yr ysgol neu siopau lleol, a bydd y buddsoddiad parhaus mewn llwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, fel y rhain yn Y Drenewydd a Llanidloes, yn helpu i gyflawni'r weledigaeth hon.
"Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn Y Drenewydd ddechrau mis Ionawr ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach yn Llanidloes. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, gyda rheolaeth traffig ar waith drwy gydol y prosiect. Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hamynedd a'u cydweithrediad."
