Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor i ysgrifennu at 110 o gartrefi am gymorth ychwanegol gyda chostau ynni dros y gaeaf

A person in a wheelchair smiling while touching heads with another person

19 Ionawr 2026

A person in a wheelchair smiling while touching heads with another person
Bydd dros 100 o drigolion Powys yn derbyn llythyr gan y cyngor sir yn eu gwahodd i hawlio taliad arian parod untro o £100 i helpu gyda biliau ynni'r gaeaf.

Mae'r cyllid, gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer aelwydydd incwm isel sydd â phreswylydd anabl.

Mae'r cyngor yn ysgrifennu at y rhai y mae'n meddwl sy'n gymwys, ac yn gofyn iddynt gadarnhau neu ddarparu manylion banc, fel y gellir trosglwyddo'r arian.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar sut y gellir gwario'r £100 Taliad y Gaeaf ar gyfer Aelwydydd Pobl Anabl Incwm Isel (Cymru).

"Bwriad y taliad hwn yw helpu aelwydydd sydd â chostau ynni uwch yn y gaeaf, lleihau pwysau ariannol, a lleddfu straen, felly os ydych chi'n gymwys ac rydym yn cysylltu â chi, gallwch fod yn hyderus bod hwn yn gais dilys i ddarparu neu gadarnhau eich manylion banc," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach. "Rydyn ni eisiau eich helpu i gael mynediad at bob cymorth sydd ar gael."

Mae cofnodion Treth y Cyngor yn cael eu defnyddio i ddod o hyd i aelwydydd cymwys, gan y bydd angen i'r rhai fydd yn derbyn y taliad hwn fod eisoes wedi gwneud cais am, neu fod yn cael gostyngiadau trwy'r Cynllun Gostyngiad Treth y Gyngor a'r Gostyngiad Band Pobl Anabl.

Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau am y taliadau gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol:

Gellir defnyddio'r manylion hyn hefyd i ofyn am gyngor ariannol cyfrinachol am ddim ar unrhyw adeg.

LLUN: Canva

Rhannwch y dudalen hon