Cyllid Ychwanegol i'r Gronfa Ffyniant Bro wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau Powys
21 Ionawr 2025
Yn gynharach eleni cyhoeddodd y cyngor sir ei fod yn derbyn £11 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf sy'n anelu at hyrwyddo twristiaeth hamdden yn y sir trwy fuddsoddiad mewn trafnidiaeth ond y byddai penderfyniad ar £6m arall yn cael ei wneud yn nes ymlaen.
Yn dilyn adolygiad o wariant, mae'r Adran Drafnidiaeth bellach wedi cadarnhau y bydd Powys yn derbyn ei ddyraniad llawn o'r Gronfa Ffyniant Bro (CFfB) o hyd at £17,714,498.
Nod y Gronfa Ffyniant Bro yw mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol ledled y DU trwy fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith lleol hanfodol i gynyddu balchder mewn lle a dod â phobl yn agosach at gyfleoedd. Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r cyngor i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid i ddatblygu a chyflawni prosiectau o fewn y sir, sy'n anelu at hybu twristiaeth hamdden a chyfrannu at dwf economaidd lleol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gosod wyneb newydd - bydd yn gwella mynediad at fannau twristiaeth poblogaidd ac yn cefnogi'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gan hwyluso teithiau o well ansawdd i drigolion ac ymwelwyr.
- Teithio llesol - bydd hyn yn darparu gwell mynediad rhwng trefi allweddol a'r cyrchfannau twristiaeth cyfagos, gan ei gwneud hi'n haws i ymwelwyr archwilio Powys gan ddefnyddio dulliau gweithredol a gwella hygyrchedd i leoliadau allweddol i drigolion. Yn benodol, bydd y cynlluniau'n cynnwys y rhai a gynlluniwyd ar gyfer Llyn Llandrindod, promenâd Aberhonddu, cam nesaf y llwybr o Landrindod i Hawy a rhan o'r llwybr o Grug Hywel i Langatwg.
- Adnewyddu Hawliau Tramwy - bydd yn galluogi ac yn gwella hygyrchedd ymwelwyr i rwydwaith Hawliau Tramwy amrywiol a gwerthfawr Powys. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i bont droed Pont y Milgi yn Ystradgynlais, pont droed y Fron yn Aberriw, gwerthuso opsiynau pont droed yr Ŵyl, Pont Ddu yn Aberriw, pont droed Llangadfan a'r Prosiect Cysylltiadau Beicio Traws-Cambria.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y cyngor sir yn derbyn £6m ychwanegol sy'n cadarnhau cyfanswm o £17.7miliwn o fuddsoddiad trafnidiaeth sy'n cefnogi twristiaeth hamdden y sir.
"Bydd sicrhau dyraniad llawn CFfB yn ein galluogi i wella hygyrchedd a wasanaethau allweddol, annog teithio llesol a chefnogi gweithgareddau hamdden, darparu teithiau gwell i bawb a gwella cysylltedd â mannau poblogaidd twristiaeth."
Mae twristiaeth wedi cael ei nodi ers amser maith fel cryfder allweddol i gefnogi twf economaidd a ffyniant ym Mhowys. Bydd y prosiectau lleol a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Brp gyda'i gilydd yn rhoi hwb i dwristiaeth hamdden ac yn cyfrannu at dwf economaidd lleol trwy:
- wella hygyrchedd ac ansawdd teithiau i wasanaethau allweddol a lleoliadau twristiaeth;
- ehangu'r gronfa lafur gyda gwell cysylltedd i ddarparu cyfleoedd i fusnesau a chyflogwyr lleol;
- hyrwyddo teithio llesol i gyfrannu tuag at dargedau Sero Net Powys wrth leihau ei allyriadau carbon; a
- datblygu gwell ymdeimlad o le a gwell atyniad, lle mae pobl yn falch o fyw ac ymweld â Phowys.
