Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid Ychwanegol i'r Gronfa Ffyniant Bro wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau Powys

Image of bank notes

21 Ionawr 2025

Image of bank notes
Mae'r cyngor wedi croesawu'r newyddion bod Powys i dderbyn mwy na £17.7 miliwn o gyllid  Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gefnogi buddsoddiad mewn trafnidiaeth.  

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y cyngor sir ei fod yn derbyn £11 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf sy'n anelu at hyrwyddo twristiaeth hamdden yn y sir trwy fuddsoddiad mewn trafnidiaeth ond y byddai penderfyniad ar £6m arall yn cael ei wneud yn nes ymlaen.

Yn dilyn adolygiad o wariant, mae'r Adran Drafnidiaeth bellach wedi cadarnhau y bydd Powys yn derbyn ei ddyraniad llawn o'r Gronfa Ffyniant Bro (CFfB) o hyd at £17,714,498.

Nod y Gronfa Ffyniant Bro yw mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol ledled y DU trwy fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith lleol hanfodol i gynyddu balchder mewn lle a dod â phobl yn agosach at gyfleoedd. Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r cyngor i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid i ddatblygu a chyflawni prosiectau o fewn y sir, sy'n anelu at hybu twristiaeth hamdden a chyfrannu at dwf economaidd lleol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gosod wyneb newydd - bydd yn gwella mynediad at fannau twristiaeth poblogaidd ac yn cefnogi'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gan hwyluso teithiau o well ansawdd i drigolion ac ymwelwyr.
  • Teithio llesol - bydd hyn yn darparu gwell mynediad rhwng trefi allweddol a'r cyrchfannau twristiaeth cyfagos, gan ei gwneud hi'n haws i ymwelwyr archwilio Powys gan ddefnyddio dulliau gweithredol a gwella hygyrchedd i leoliadau allweddol i drigolion. Yn benodol, bydd y cynlluniau'n cynnwys y rhai a gynlluniwyd ar gyfer Llyn Llandrindod, promenâd Aberhonddu, cam nesaf y llwybr o Landrindod i Hawy a rhan o'r llwybr o Grug Hywel i Langatwg.
  • Adnewyddu Hawliau Tramwy - bydd yn galluogi ac yn gwella hygyrchedd ymwelwyr i rwydwaith Hawliau Tramwy amrywiol a gwerthfawr Powys. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i bont droed Pont y Milgi yn Ystradgynlais, pont droed y Fron yn Aberriw, gwerthuso opsiynau pont droed yr Ŵyl, Pont Ddu yn Aberriw, pont droed Llangadfan a'r Prosiect Cysylltiadau Beicio Traws-Cambria.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y cyngor sir yn derbyn £6m ychwanegol sy'n cadarnhau cyfanswm o £17.7miliwn o fuddsoddiad trafnidiaeth sy'n cefnogi twristiaeth hamdden y sir.   

"Bydd sicrhau dyraniad llawn CFfB yn ein galluogi i wella hygyrchedd a wasanaethau allweddol, annog teithio llesol a chefnogi gweithgareddau hamdden, darparu teithiau gwell i bawb a gwella cysylltedd â mannau poblogaidd twristiaeth."

Mae twristiaeth wedi cael ei nodi ers amser maith fel cryfder allweddol i gefnogi twf economaidd a ffyniant ym Mhowys. Bydd y prosiectau lleol a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Brp gyda'i gilydd yn rhoi hwb i dwristiaeth hamdden ac yn cyfrannu at dwf economaidd lleol trwy:

  • wella hygyrchedd ac ansawdd teithiau i wasanaethau allweddol a lleoliadau twristiaeth;
  • ehangu'r gronfa lafur gyda gwell cysylltedd i ddarparu cyfleoedd i fusnesau a chyflogwyr lleol;
  • hyrwyddo teithio llesol i gyfrannu tuag at dargedau Sero Net Powys wrth leihau ei allyriadau carbon; a
  • datblygu gwell ymdeimlad o le a gwell atyniad, lle mae pobl yn falch o fyw ac ymweld â Phowys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu