Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi cartref Eisteddfod 2027

A map showing the area around Glantwymyn

21 Ionawr 2025

A map showing the area around Glantwymyn
Ardal Glantwymyn fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2027.

Cyhoeddwyd hyn mewn cyfarfod cyhoeddus gyda thros 100 o drigolion lleol yn neuadd y pentref, nos Fawrth 13 Ionawr.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at groesawu Cymru gyfan ac ymwelwyr o du hwnt atom ni am wythnos sy'n sicr o fod yn arbennig iawn, o gofio'r eisteddfodau mwyaf diweddar yn y sir.

"Bydd Powys i gyd yn y dalgylch, ac felly bydd cyfle i drigolion ar hyd a lled y sir i chwarae'u rhan yn y trefniadau - o gydweithio gyda ni ar y cystadlaethau i godi ymwybyddiaeth mewn pentrefi a threfi ar draws y fro. 

"Bydd y prosiect cymunedol yn cynnwys y sir i gyd, a bydd cyfleoedd perfformio i blant, pobl ifanc, corau a grwpiau o bob math yn ystod wythnos yr ŵyl. 

"Rydyn ni mor agos at y ffin gyda Gwynedd yma yng Nglantwymyn, ac rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi fod y dalgylch hefyd yn cynnwys de Meirionnydd, felly mae Dyffryn Dysynni, ardal Dolgellau a phum plwyf Penllyn hefyd yn rhan o'r dalgylch. Cyfle felly i drigolion yr ardal fod yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers 2009.

"Mae'r gair 'cyfle' yn hollbwysig yma. Cyngor Powys sydd wedi ein gwahodd ni yma i'r sir a Phowys fydd yn arwain ar y trefniadau - ond mae cyfle i ardal de Meirionnydd chwarae rhan allweddol yn y trefniadau ac i fod yn rhan o'r prosiect cymunedol hefyd."

Mae'r Eisteddfod hon yn dilyn y model a grëwyd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni, sef cynnwys rhannau o fwy nag un sir yn nalgylch yr ŵyl.  Mae'r cydweithio rhwng Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr wedi gweithio'n dda, ac felly bydd Eisteddfod 2027 yn efelychu hyn drwy wahodd de Meirionnydd i fod yn rhan o'r paratoadau.

Bydd y gwaith o greu'r gronfa leol yn cychwyn ar-lein nos Fawrth 10 Chwefror am 18:00. Gellir cofrestru i ymuno â'r tîm yma, Pwyllgorau Eisteddfod 2027 | Eisteddfod.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2027 o 31 Gorffennaf - 7 Awst. Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu