Ffermwr o Bowys yn cael dirwy am achosi dioddefaint diangen i 80 o ddefaid
21 Ionawr 2026
Mae Guy Hodnett o Brook House, Tref-y-clawdd, Powys wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Sir Powys.
Ymddangosodd Mr Hodnett gerbron Llys Ynadon Llandrindod yr wythnos hon (dydd Mawrth, 20 Ionawr) lle plediodd yn euog i ddwy drosedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi prynu grŵp o fwy nag 80 o ŵyn ac, ym mis Tachwedd 2024, pan oedd yr anifeiliaid dros chwe mis oed, rhoddodd fodrwyau elastig ar eu cynffonnau er mwyn hwyluso gwaith tocio cynffonau.
Perfformiodd y gwaith hwn ei hun, heb ofyn am unrhyw gyngor milfeddygol, heb ddefnyddio anesthetig, a heb weinyddu unrhyw ddull o liniaru poen wedyn.
Caniateir tocio cynffonau defaid o dan Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007, ond dim ond o dan amodau clir iawn.
Ni chaniateir defnyddio modrwyau rwber ar unrhyw ddafad dros saith diwrnod oed, a dim ond milfeddyg y caniateir iddynt dorri cynffonau defaid dros dri mis oed gan ddefnyddio dull lleddfu poen ac anesthesia priodol.
Daeth y Tyst Arbenigol APHA i'r casgliad:
- Nad oedd gan y diffynnydd y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer gofal priodol o ddefaid;
- Roedd rhoi modrwyau elastig yn ddiangen ac wedi achosi dioddefaint diangen;
- Byddai'r dull a ddefnyddiwyd wedi rhoi cyfnod hir o boen i'r ŵyn a gellid bod wedi osgoi hynny;
- Methodd y diffynnydd â dangos safonau gofal stoc derbyniol, fel sy'n ofynnol gan is-ddeddfwriaeth Cymru;
- Arweiniodd ei weithredoedd at oedi sylweddol wrth wella, a thrwy hynny gynyddu poen a dioddefaint yr anifeiliaid; ac
- Roedd amseriad y weithdrefn, ar ddiwedd y tymor clefyd pryfed, yn golygu nad oedd unrhyw gyfiawnhad rhesymol dros dorri cynffonau.
Er mai hon yw trosedd hysbys gyntaf y diffynnydd, mae nifer yr anifeiliaid dan sylw, difrifoldeb y dioddefaint a achoswyd, a'i difaterwch llwyr o'r fframwaith deddfwriaethol sy'n bodoli i amddiffyn lles anifeiliaid gyda'i gilydd yn gwneud erlyniad yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Dywedodd ynadon wrth Mr Hodnett y byddent ond yn ei ddirwyo am y drosedd gyntaf.
Rhoddodd ynadon ddirwy o £604 i'r diffynnydd am y drosedd gyntaf, wedi'i ostwng i £403 oherwydd iddo bledio'n euog, heb unrhyw gosb ar wahân am yr ail drosedd a gyflawnwyd. Gorchmynnwyd iddo dalu costau erlyniad o £2,000 a gordal llys o £161, gan ddod â'r cyfanswm i £2,564.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae lles anifeiliaid yn gyfrifoldeb sylfaenol i unrhyw un sy'n cadw da byw, ac mae amgylchiadau'r achos hwn yn annerbyniol. Roedd lefel y dioddefaint a achoswyd i'r defaid hyn yn rhywbeth y gellid bod wedi ei osgoi yn gyfangwbl, ac roedd y camau a gymerwyd yn dangos diystyrwch clir o'r gyfraith a lles yr anifeiliaid dan sylw.
"Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i gefnogi ffermwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau, ond lle mae'r safonau hynny'n cael eu hanwybyddu, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi priodol. Mae'r erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir Powys yn gweithredu i ddiogelu lles anifeiliaid a chynnal y safonau y mae'r mwyafrif helaeth o'n cymuned ffermio yn eu bodloni bob dydd."
