Pont Williams, Llanymynech
B4398 Adolygiad o'r Terfyn Cyflymder ym Mhont Williams, Llanymynech
Dyddiad dechrau: 30 Ionawr 2026
Dyddiad gorffen: 1 Mawrth 2026
Cynnig
Cynllun: Gorchymyn Sir Powys (Pont Williams y B4398, Llanymynech) (Terfyn Cyflymder 30 MYA a 40 MYA) 2026
Lleoliad: B4398 Pont Williams, Llanymynech
Disgrifiad: Cyflwyno terfynau cyflymder mwy priodol ar hyd y B4398 ar y ffyrdd i Bont Williams a Llanymynech.
- Hysbysiad cyntaf - B4398 Pont Williams Llanymynech (PDF, 109 KB)
- Datganiad o Resymau Llanymynech (PDF, 143 KB)
- Cynllun (PDF, 253 KB)
- Gorchmyn Drafft Pont Williams Llanymynech (PDF, 146 KB)
Sut i gymryd rhan
Gellir lawrlwytho copi o'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft, y gorchymyn rheoleiddio traffig presennol, y cynllun gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig, yr hysbysiad cyntaf i'r wasg a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.
Gall UNRHYW BERSON gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill ar y Gorchymyn arfaethedig i'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2026, gan nodi sail y gwrthwynebiad.
Noder: Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan dîm y prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth a roesoch i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond os oes angen gwneud hynny i'n galluogi i ddelio â materion yr ydych wedi tynnu ein sylw atynt y byddwn yn datgelu eich manylion personol.
Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Draffig
Neuadd Sir Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Gellir cyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a rhesymau penodol am unrhyw wrthwynebiadau drwy e-bost i traffic@powys.gov.uk erbyn 1 Mawrth 2026 fan bellaf. Defnyddiwch y geiriad "Cyflwyno Sylw Adolygiad Terfyn Cyflymder Pont Williams" ar linell destun eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau ar y cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.
Crynodeb o'r ymatebion
Dim gwybodaeth ar gael ar y funud hon.
Delliannau
I'w benderfynu
