Toglo gwelededd dewislen symudol

Pont Williams, Llanymynech

B4398 Adolygiad o'r Terfyn Cyflymder ym Mhont Williams, Llanymynech

Dyddiad dechrau:    30 Ionawr 2026

Dyddiad gorffen:      1 Mawrth 2026

Cynnig

Cynllun: Gorchymyn Sir Powys (Pont Williams y B4398, Llanymynech) (Terfyn Cyflymder 30 MYA a 40 MYA) 2026

Lleoliad: B4398 Pont Williams, Llanymynech

Disgrifiad: Cyflwyno terfynau cyflymder mwy priodol ar hyd y B4398 ar y ffyrdd i Bont Williams a Llanymynech.

 

Sut i gymryd rhan

Gellir lawrlwytho copi o'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft, y gorchymyn rheoleiddio traffig presennol, y cynllun gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig, yr hysbysiad cyntaf i'r wasg a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW BERSON gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill ar y Gorchymyn arfaethedig i'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2026, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Noder: Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan dîm y prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth a roesoch i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond os oes angen gwneud hynny i'n galluogi i ddelio â materion yr ydych wedi tynnu ein sylw atynt y byddwn yn datgelu eich manylion personol.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch

Adran Draffig
Neuadd Sir Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Gellir cyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a rhesymau penodol am unrhyw wrthwynebiadau drwy e-bost i traffic@powys.gov.uk erbyn 1 Mawrth 2026 fan bellaf. Defnyddiwch y geiriad "Cyflwyno Sylw Adolygiad Terfyn Cyflymder Pont Williams" ar linell destun eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau ar y cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.

Crynodeb o'r ymatebion

Dim gwybodaeth ar gael ar y funud hon.

Delliannau

I'w benderfynu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu