Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y Gweithle Lefel 3

Budd Sefydliadol

Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn oedolion a lleihau stigma. Hybu gwybodaeth a sgiliau wrth ddelio ag iechyd meddwl a hyrwyddo ymyrraeth gynnar.

Rhoi gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl oedolion.

Pwy Ddylai Fynychu?

Rheolwyr - Unrhyw staff sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Cynllun MHFA.

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer pobl dros 18 oed, sydd â diddordeb mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl ac a fyddai'n hoffi codi eu hymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn yr amgylchedd gwaith a gallu gwrando a chynorthwyo cydweithwyr yn y gwaith yn weithredol.

Amcanion Dysgu

Amcan y cymhwyster yw bod o fudd i'r Dysgwr drwy eu haddysgu mewn problemau iechyd meddwl cyffredin sy'n gysylltiedig â gwaith fel straen, iselder ysbryd, ac anhwylder straen wedi trawma.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys sut i wrando a chael sgwrs, darparu awgrymiadau ond grymuso'r unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun ar y ffordd orau o ddarparu cymorth mewn cyfnod anodd. Bydd y dysgwr hefyd yn ennill dealltwriaeth o gyfreithiau sy'n berthnasol i'r gweithle sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Deilliannau Dysgu

  • Deall Iechyd Meddwl a'i bwysigrwydd.
  • Deall rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag Iechyd Meddwl yn y gweithle.
  • Deall amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin.
  • Gwybod sut i roi strategaethau cymorth cyntaf Iechyd Meddwl ar waith yn y gweithle.
  • Deall sut y gall cyflogwyr ddarparu cefnogaeth i weithwyr.

Gwybodaeth bellach

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r asesiad i gyflawni'r ardystiad.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys trafodaethau ar gyflyrau iechyd meddwl, megis straen, iselder ysbryd, ac anhwylder straen wedi trawma, a hunanladdiad.

Rhaid dangos ID gyda llun i'r hyfforddwr ar ddechrau'r sesiwn.

Hyd: 2 Ddiwrnod

Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth 
iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill,cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu