Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y Gweithle Lefel 3
Budd Sefydliadol
Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn oedolion a lleihau stigma. Hybu gwybodaeth a sgiliau wrth ddelio ag iechyd meddwl a hyrwyddo ymyrraeth gynnar.
Rhoi gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl oedolion.
Pwy Ddylai Fynychu?
Rheolwyr - Unrhyw staff sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Cynllun MHFA.
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer pobl dros 18 oed, sydd â diddordeb mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl ac a fyddai'n hoffi codi eu hymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn yr amgylchedd gwaith a gallu gwrando a chynorthwyo cydweithwyr yn y gwaith yn weithredol.
Amcanion Dysgu
Amcan y cymhwyster yw bod o fudd i'r Dysgwr drwy eu haddysgu mewn problemau iechyd meddwl cyffredin sy'n gysylltiedig â gwaith fel straen, iselder ysbryd, ac anhwylder straen wedi trawma.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys sut i wrando a chael sgwrs, darparu awgrymiadau ond grymuso'r unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun ar y ffordd orau o ddarparu cymorth mewn cyfnod anodd. Bydd y dysgwr hefyd yn ennill dealltwriaeth o gyfreithiau sy'n berthnasol i'r gweithle sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Deilliannau Dysgu
- Deall Iechyd Meddwl a'i bwysigrwydd.
- Deall rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag Iechyd Meddwl yn y gweithle.
- Deall amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin.
- Gwybod sut i roi strategaethau cymorth cyntaf Iechyd Meddwl ar waith yn y gweithle.
- Deall sut y gall cyflogwyr ddarparu cefnogaeth i weithwyr.
Gwybodaeth bellach
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r asesiad i gyflawni'r ardystiad.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys trafodaethau ar gyflyrau iechyd meddwl, megis straen, iselder ysbryd, ac anhwylder straen wedi trawma, a hunanladdiad.
Rhaid dangos ID gyda llun i'r hyfforddwr ar ddechrau'r sesiwn.
Hyd: 2 Ddiwrnod
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill,cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
