Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: System dalu yn segur am gyfnod

Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori ar gampws Cradoc

Image of a primary school classroom

12 Chwefror 2026

Image of a primary school classroom
Gallai campws ysgol gynradd yn ne Powys gau os bydd argymhelliad i'r Cabinet yn cael ei gymeradwyo, meddai'r cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau campws Cradoc o Ysgol Golwg Pen y Fan ac fe gynhaliodd ymgynghoriad ar y cynnig rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr 2025. Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Chwefror.

Bydd gofyn i'r Cabinet hefyd barhau â'r broses o gau campws Cradoc.

Os rhoddir sêl bendith, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna byddai'n ofynnol ystyried adroddiad arall i gwblhau'r broses.

Agorodd Ysgol Golwg Pen y Fan ym mis Medi 2024 drwy ddod â thair ysgol at ei gilydd o dan un corff llywodraethu. Ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i gwasgaru ar draws tri safle yn Aberhonddu a Chradoc, cyn iddi symud i ysgol newydd sbon, bwrpasol ar hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu, wedi'i chynllunio i ddod â phawb at ei gilydd o dan yr un to.

Fodd bynnag, mae nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol ar gampws Cradoc ac mae'r cyngor yn bwriadu cau'r campws cyn symud i'r adeilad newydd. Ar hyn o bryd mae 15 o ddisgyblion ar y campws, sef gostyngiad o'r 71 o ddisgyblion oedd yno ym mis Medi 2024.

Mae'r cynnig, sy'n cyd-fynd â Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, yn cael ei yrru gan ystod o fanteision addysgol a gweithredol.

Bydd cydgrynhoi safleoedd yn symleiddio arweinyddiaeth a rheolaeth, yn lleihau teithio ac ymdrechion dyblyg, ac yn cynhyrchu arbedion cost ar gynnal a chadw a gweinyddu. Bydd hefyd yn helpu i gydbwyso niferoedd disgyblion ar draws lleoliadau, lleihau lleoedd dros ben, a galluogi cynnig addysgol mwy cyson i bob dysgwr.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rydym am ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad diweddar ar y cynnig hwn. Mae eich safbwyntiau wedi cael eu hystyried yn ofalus fel rhan o'r broses hon.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr ac rydym yn credu y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.

"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, lleihau nifer y disgyblion a'r nifer uchel o leoedd dros ben.

"Bydd dod â staff a disgyblion at ei gilydd yn cefnogi cydweithredu cryfach, yn caniatáu grwpio mwy effeithiol yn ôl gallu neu angen, ac yn meithrin datblygiad cymdeithasol trwy grwpiau cyfoedion mwy. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n fwy hyfyw i redeg clybiau, timau chwaraeon, a gweithgareddau cyfoethogi.

"Nid ar chwarae bach y cafodd yr argymhelliad hwn ei wneud, ond credwn fod y cynnig hwn yn rhoi mwy o sicrwydd cyn symud i adeilad pwrpasol newydd ar gyfer Ysgol Golwg Pen y Fan."

I ddarllen y Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 wedi'i diweddaru a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu