Amser i roi'ch barn ar strategaeth ddrafft ar gyfer rheoli dŵr
19 Chwefror 2026
Roedd y ddau ddigwyddiad yn adlewyrchu'r rhai a gynhaliwyd eisoes ym Mhowys a Swydd Amwythig a rhoddodd gyfle i drigolion, tirfeddianwyr a grwpiau cymunedol edrych ar y wybodaeth rheoli dŵr sy'n dod i'r amlwg, siarad ag aelodau o dîm y prosiect, a rhannu eu profiadau a'u barn.
Defnyddiodd mynychwyr yr holl sesiynau i ofyn cwestiynau a chynnig mewnwelediadau ymarferol a fydd yn cyfrannu at lunio'r strategaeth ddrafft a fydd yn agored i graffu yn y rownd olaf o ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni.
Mynychodd Glyn Preston, aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys sy'n gyfrifol am Bowys fwy ffyniannus, ddigwyddiad Llanidloes. Diolchodd i bobl am gymryd yr amser i ddod draw ac am eu diddordeb parhaus yn y cynllun, gan ddweud: "Gan fod Cyngor Sir Powys yn un o'r partneriaid strategol yn CRhDDH, roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl yn ymgysylltu gyda'r y gwaith sy'n digwydd.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu diddordeb yn y cynllun a'r cynnydd hyd yn hyn, ac rwy'n annog pobl i barhau i gymryd rhan wrth i ni symud tuag at ddatblygu'r strategaeth ddrafft a'r ymgynghoriad statudol yn ddiweddarach eleni."
Er bod y digwyddiadau wyneb yn wyneb bellach wedi gorffen, mae cyfle o hyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun i gael rhoi eu barn. Mae'r ymgynghoriad arlein yn parhau i fod ar agor tan 11 Mawrth.
Bydd adborth o bob un o'r naw sesiwn yn helpu i lywio cam nesaf y gwaith wrth i'r strategaeth rheoli dŵr ddrafft barhau i gael ei ffurfio cyn ymgynghori pellach yn ddiweddarach yn 2026.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys deunyddiau'r ymgynghoriad a ffurflenni adborth, ewch i: www.severnvalleywatermanagementscheme.commonplace.is
Gellir cyfeirio ymholiadau at: SVWMS@environment-agency.gov.uk
Ynglŷn â SVWMS: Menter drawsffiniol yw SVWMS dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig, ac wedi'i hariannu gan Defra. Ei nod yw datblygu strategaeth rheoli dŵr holistaidd ar gyfer Hafren Uchaf, a allai fod yn fodel ar gyfer prosiectau tebyg ledled y wlad.
