Toglo gwelededd dewislen symudol

Dweud eich dweud ar Strategaeth Economaidd ddrafft TYFU Powys

Four plants growing on top of varying piles of coins to show economic growth

2 Mawrth 2026

Four plants growing on top of varying piles of coins to show economic growth
Gwahoddir pobl Powys i helpu i siapio Strategaeth Economaidd hirdymor newydd ar gyfer Powys, meddai'r cyngor sir.

Mae ymgysylltiad â'r cyhoedd ar ei Strategaeth Economaidd ddrafft TYFU Powys, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer tyfu economi leol gryfach, decach a gwyrddach hyd at 2040 wedi dechrau heddiw (dydd Llun 2 Mawrth).

Mae'r strategaeth ddrafft yn canolbwyntio ar saith sector twf allweddol, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, ynni, economïau gwledig a sylfaenol, twristiaeth a digwyddiadau, a datblygu sgiliau. Mae hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar gynaliadwyedd, gwytnwch, a chreu cyfleoedd â thâl gwell i bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhowys.

Meddai'r Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus: "Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ond ymarferol ar gyfer sut rydym yn tyfu economi Powys mewn ffordd sy'n gweithio i'n cymunedau, ein busnesau a'n hamgylchedd.

Rydym am i hyn gael ei siapio gan bobl Powys, a dyna pam mae'r ymgysylltiad hwn mor bwysig. P'un a ydych chi'n breswylydd, perchennog busnes, neu'n gynrychiolydd cymunedol, rwy'n eich annog i gymryd rhan, a'n helpu i siapio dyfodol ein sir."

Sut i gymryd rhan

Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, gall pobl:

  • Ddweud eu dweud arlein drwy gwblhau arolwg ar Hwb Ymgysylltu y Cyngor: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/tyfu-powys
  • Rhannwch eu barn all-lein, gydag arolygon a gwybodaeth printiedig ar gael ar gais ar draws Llyfrgelloedd Powys. Dychwelwch ffurflenni wedi'u cwblhau at staff y llyfrgell, neu sganiwch ac ebostiwch nhw i haveyoursay@powys.gov.uk
  • Siarad â swyddogion mewn cyfres o sesiynau galw heibio a gynhelir ledled Powys:

Dydd Mawrth 10 Mawrth

 

Llyfrgell Trefaldwyn

10yb - 12yp

Llyfrgell Llanwrtyd 

2 - 4.30yp

Llyfrgell Llandrindod

3 - 6yp

Llyfrgell Y Drenewydd

3 - 6yp

Llyfrgell Ystradgynlais

3 - 6yp

Dydd Mercher 11 Mawrth

 

Llyfrgell Llanandras

1 - 4yp

Llyfrgell Aberhonddu (Y Gaer)

3.30 - 6.30yp

Llyfrgell Llanidloes 

3 - 6yp

Llyfrgell Rhaeadr Gwy

3 - 6yp

Dydd Iau 12 Mawrth

 

Llyfrgell Crughywel

2 - 5yp

Llyfrgell Llanfyllin 

2 - 5yp

Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt

3 - 6yp

Llyfrgell Y Gelli Gandryll

3 - 6yp

Llyfrgell Y Gelli Gandryll

3 - 6yp

Llyfrgell Llanfair Caereinion 

3 - 6yp

Dydd Gwener 13 Mawrth

 

Llyfrgell Machynlleth

2 - 5yp

Ochr yn ochr â'r ymgysylltiad cyhoeddus ehangach, bydd y Cyngor hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda Chynghorau Tref a Chymuned, busnesau, partneriaid a sefydliadau cymunedol i sicrhau bod safbwyntiau lleol o bob rhan o Bowys yn helpu i siapio'r strategaeth derfynol.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher 25ain Mawrth.

Bydd yr holl adborth a gesglir rhyngddynt yn cael ei ddadansoddi a'i ddefnyddio i fireinio'r strategaeth cyn iddi gael ei chwblhau a'i chyhoeddi.

 

Rhannwch y dudalen hon