Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Trigolion Powys yn cefnogi system archebu canolfannau ailgylchu yn dilyn adolygiad sylweddol

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone

Translation Required:

4 Mawrth 2025

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone
Bydd pwyllgor craffu'r cyngor yn trafod canlyniadau'r adolygiad cynhwysfawr o newidiadau yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (CAGC) Powys yn eu cyfarfod wythnos nesaf (12 Mawrth).

Cynhaliwyd yr adolygiad mawr chwe mis ar ôl i'r system archebu a'r ffioedd DIY gael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2025, a chasglodd farn gan fwy na 6,000 o drigolion, ochr yn ochr ag adborth staff, gweithdai cynghorwyr, ac ystyriodd bethau fel tipio anghyfreithlon, cyfradd ailgylchu a chanmoliaeth a chwynion cwsmeriaid.

Ar y cyfan, mae'r adolygiad wedi dangos cefnogaeth gref i'r system archebu gyda 93% o'r rhai a holwyd yn dweud bod y system archebu yn hawdd i'w defnyddio, a bron i dri chwarter (74%) eisiau iddi aros. Canmolodd llawer yr ymweliadau esmwyth, dim ciwiau, a mwy o gefnogaeth gan staff ar y safle, gan ddweud bod eu hymweliadau bellach yn gyflymach, yn dawelach ac yn fwy effeithlon.

Er bod rhai wedi codi pryderon am lai o hyblygrwydd, canfu'r adolygiad fod natur ragweladwy ac effeithlonrwydd y system wedi gwella'r ffordd y mae'r safleoedd yn gweithredu yn sylweddol.

Edrychodd yr adolygiad hefyd ar y ffioedd am rai mathau o wastraff DIY. Tra fod hyn yn llai poblogaidd, roedd llawer o drigolion yn deall pam fod angen y ffioedd, ac yn bwysig, mae achosion o dipio anghyfreithlon neu danau gwyllt wedi aros o fewn y lefelau disgwyliedig ers iddynt gael eu cyflwyno. Mae canfyddiadau cadarnhaol eraill yn cynnwys:

•     96% o breswylwyr yn canmol staff am fod yn gymwynasgar

•     85% yn dweud fod y safleoedd yn lanach, yn fwy diogel ac wedi eu trefnu'n well

•     Dywed staff fod y system wedi gwneud eu swyddi yn haws ac wedi gwella diogelwch

Yn seiliedig ar y canfyddiadau, mae'r adroddiad yn argymell bod y system archebu a'r ffioedd DIY yn parhau. Mae'r gwelliannau a amlygwyd drwy'r adolygiad eisoes wedi'u gweithredu, gan gynnwys:

•     Oriau agor estynedig mewn rhai safleoedd

•     Cynyddu nifer y slotiau archebu sydd ar gael lle mae'r galw yn uchel

•     Opsiwn newydd i ofyn am gymorth tra ar y safle drwy'r ffurflen archebu

•     Addasiadau i'r broses archebu arlein i'w gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr

•     Cynlluniau ar waith i ehangu cyfleoedd ailddefnyddio mewn mwy o ganolfannau

Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach: "Mae'r adolygiad yn ei gwneud hi'n glir bod y system newydd yn gweithio'n dda i breswylwyr a staff, tra hefyd yn darparu manteision gwirioneddol o ran diogelwch, effeithlonrwydd, ansawdd ailgylchu, a phrofiad cwsmeriaid.

"Deallwn fod yna wastad rywfaint o ansicrwydd pan gaiff newidiadau eu cyflwyno ac mae'n galonogol gweld bod trigolion wedi gweld drostynt eu hunain y manteision o gyflwyno'r system archebu ac yn awr yn gefnogol i'w chadw.

"Fel y byddech chi'n disgwyl, byddwn yn parhau i weithio gyda'n contractwyr i fonitro a gwneud gwelliannau i'r canolfannau ailgylchu yn rheolaidd yn unol â'n Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy (Gwastraff ac Ailgylchu), gan gynnwys ymestyn yr opsiwn i ailddefnyddio ac atgyweirio."

Rhannwch y dudalen hon