Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: System dalu yn segur am gyfnod

Unffordd Stryd y Santes Fair, Aberhonddu

Dirymu Gorchymyn Unffordd Stryd y Santes Fair, Aberhonddu

Dyddiad dechrau: 11 Mawrth 2026

Dyddiad gorffen: 2 Ebrill 2026

Cynnig

Cynllun: Gorchymyn Sir Powys (U0731 Heol y Santes Fair, Aberhonddu) (Traffig Unffordd) 2026

Lleoliad: Stryd y Santes Fair, Aberhonddu

Disgrifiad: Newid cyfeiriad unffordd llif traffig ar hyd Stryd y Santes Fair, Aberhonddu er mwyn hwyluso'r gwelliannau arfaethedig i strydlun canol tref Aberhonddu.

 

Sut i Gymryd Rhan

Gellir lawrlwytho copi o destun drafft y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, y gorchymyn rheoleiddio traffig presennol, y cynllun gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig, yr hysbysiad cyntaf i'r wasg a datganiad y Cyngor o'r rhesymau dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW BERSON sydd heb fod yn hwyrach na 2 Ebrill 2026 gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill i'r Gorchymyn arfaethedig i'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifenedig, gan nodi eu seiliau cadarn dros wrthwynebu.

Sylwch: Os hoffech wrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd tîm y prosiect yn ystyried eich gohebiaeth ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, byddwn ond yn datgelu eich manylion personol pan fydd angen gwneud hynny i'n galluogi i ddelio â materion yr ydych wedi tynnu ein sylw atynt.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch

Adran Traffig 
Neuadd y Sir Powys 
Llandrindod
Powys 
LD1 5LG

Gall gwrthwynebiadau a sylwadau eraill y mae'n rhaid iddynt gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a rhesymau sylweddol dros unrhyw wrthwynebiadau hefyd gael eu cyflwyno drwy e-bost at mailto:traffic@powys.gov.uktraffic@powys.gov.uk Heb fod yn hwyrach na 2Ebrill 2026. Defnyddiwch y geiriad "Sylwadau Unffordd Stryd Santes Fair, Aberhonddu" fel y llinell bwnc ar gyfer eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau i'r cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.

 

Crynodeb o'r ymatebion

Dim gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd.

Delliannau

Dim gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhannwch y dudalen hon