Annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio cyn ei bod hi'n rhy hwyr
10 Mawrth 2026
Ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc, myfyrwyr a'r rhai sydd wedi symud yn ddiweddar, yn llai tebygol o fod wedi cofrestru nag eraill.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein yma Cofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd.
Ar ôl cofrestru, mae gan bleidleiswyr ystod o opsiynau - gallant bleidleisio yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais ddirprwy. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID â llun i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Dywedodd Emma Palmer, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Powys: "Peidiwch â cholli eich cyfle i ddweud eich dweud yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae etholiadau'r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ynghylch pwy sy'n eich cynrychioli ac sy'n gwneud penderfyniadau am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma ym Mhowys.
"Os ydych chi'n amau a oes angen i chi gofrestru i bleidleisio neu os oes gennych gwestiynau am sut i wneud cais am bleidlais bost neu ddirprwy, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol y cyngor drwy e-bostio electoral.services@powys.gov.uk"
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru: "Mae'n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd sydd ar ddod ar 7 Mai. Rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi'i gofrestru, ac efallai y bydd angen i rai wneud cais am bleidlais bost neu ddirprwy. Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, ac ni fydd angen ID â llun.
"Os ydych chi wedi newid eich enw, cyfeiriad neu symud adref yn ddiweddar ers i chi gofrestru ddiwethaf, dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i wneud yn siŵr eich bod chi'n gallu pleidleisio mewn ffordd sy'n iawn i chi."
Gellir dod o hyd i wybodaeth glir, ddibynadwy am gofrestru i bleidleisio a'ch holl opsiynau pleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol
