Canfyddiadau ymgysylltu yn llunio camau nesaf arfaethedig ar gyfer trawsnewid addysg ôl‑16 ym Mhowys
11 Mawrth 2026
Heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth), mae Cyngor Sir Powys wedi nodi sut y bydd yn dechrau datblygu cynnig 14+ tecach, ehangach a mwy cynaliadwy i ddysgwyr ledled y sir dros y flwyddyn i ddod.
Ni cheisir unrhyw benderfyniad ar hyn o bryd ynghylch modelau cyflawni yn y dyfodol. Bydd y cyngor yn parhau i gryfhau'r Chweched Powys presennol, ac mae'r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i barhau i ymgysylltu â dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, colegau a chyflogwyr dros y 12 mis nesaf.
Mae'r rhaglen waith arfaethedig, sydd wedi'i llywio gan un o'r ymarferion ymgysylltu mwyaf a gynhaliwyd ar addysg yn y sir, yn cynnwys:
- Parhau i gryfhau model presennol Chweched Powys ar gyfer dysgwyr presennol.
- Sefydlu Bwrdd Llwybrau'r Dyfodol newydd gydag Addysg Bellach, Addysg Uwch, cyflogwyr a'r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.
- Creu grŵp llywio llywodraethwyr a gweithgor ôl‑16 ADY i lunio llwybrau gwell ar gyfer dysgwyr.
- Ymgysylltu ag ysgolion cynradd a chyflogwyr yn ddiweddarach yn 2026 i sicrhau bod llwybrau'r dyfodol yn adlewyrchu anghenion lleol ac economi'r sir yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â'r camau nesaf arfaethedig hyn, mae'r cyngor heddiw wedi cyhoeddi canfyddiadau'r rhaglen ymgysylltu annibynnol a ddarperir gan Opinion Research Services (ORS). Mae'r ymatebion yn rhoi mewnwelediad manwl i'r hyn sydd ei angen ar bobl ifanc a theuluoedd o addysg ôl‑16 yn y dyfodol.
Dywedodd dysgwyr eu bod yn gwerthfawrogi perthynas gref â staff, amgylcheddau ysgol cefnogol a gallu astudio'n agos at adref. Fodd bynnag, fe wnaethant hefyd dynnu sylw at heriau fel dewis cyfyngedig o bynciau, cyfleoedd galwedigaethol cyfyngedig, amrywiaeth mewn cyfleusterau, dibynadwyedd digidol a'r amhariad a achosir o orfod teithio rhwng safleoedd ysgol yn ystod y diwrnod ysgol.
Pwysleisiodd llawer bwysigrwydd llwybrau cliriach i brentisiaethau, addysg uwch a chyflogaeth, yn enwedig mewn meysydd sy'n gysylltiedig â thwf economaidd Powys yn y dyfodol. Roedd cryfhau parhad cyfrwng Cymraeg a‑gwella llwybrau i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn dod drosodd yn gryf yn yr adborth.
Mae'r canfyddiadau hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill i gryfhau'r cynnig ôl‑16 presennol, ehangu llwybrau galwedigaethol 14+ a dylunio system 14+ fwy integredig sy'n cynnwys ysgolion, Addysg Bellach, Addysg Uwch, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.
Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ddydd Iau, 19 Mawrth a chan y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Mawrth.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, byddai'r gwaith hwn yn parhau trwy gydol 2026-27, gydag opsiynau hirdymor‑14+ yn cael eu cyflwyno i'w hystyried ymhellach yn haf 2027, ac yna ymgysylltu ehangach yn hydref 2027. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei ystyried yn 2028, a disgwylir ei weithredu rhwng 2029 a 2031.
Meddai'r Cynghorydd James Gibson‑Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Hoffwn ddiolch i bob dysgwr, rhiant, gofalwr, llywodraethwr, aelod o staff a chyflogwr a gymerodd ran yn yr ymgysylltiad helaeth hwn. Mae'r adborth yn rhoi darlun clir o'r hyn mae ein pobl ifanc ei angen o addysg ôl‑16 ac mae'n siapio'r camau nesaf arfaethedig yr ydym yn eu cyflwyno yn uniongyrchol.
"Mae'n amlwg, tra bod cymorth bugeiliol a hunaniaeth leol yn gryfderau yn y system bresennol, fod yn rhaid i ni wneud mwy i ehangu dewis pynciau, cryfhau llwybrau galwedigaethol, moderneiddio cyfleusterau a sicrhau mynediad teg i bawb.
"Bydd y Cabinet nawr yn ystyried yr argymhellion hyn wrth i ni barhau i weithio tuag at Bowys gryfach, decach a gwyrddach lle gall pobl ifanc ffynnu."
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg
