Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor a Dyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 13 Mawrth 2026 oherwydd diweddariad i'r system.

Elusennau yn helpu 500 o bobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol gartref

Roy and Pam from Norton with Senior Support Worker Sharon Owen of East Radnorshire Care.

13 Mawrth 2026

Roy and Pam from Norton with Senior Support Worker Sharon Owen of East Radnorshire Care.
Fe wnaeth dwy elusen helpu mwy na 500 o bobl hŷn yng nghanolbarth Powys i barhau i fyw'n annibynnol gartref y llynedd (2024-25).

Darparodd Cymorth Cartref Dwyrain Maesyfed a Chymorth Cartref Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd gymorth ar 14,000 o achlysuron a mwy, gan arbed gwario mwy na £220,000 ar opsiynau iechyd neu ofal cymdeithasol costus.

Mae'r ddwy elusen yn darparu:

  • Galwadau brys
  • Gosod larwm gofal
  • Galwadau lles
  • Cymorth byw'n annibynnol
  • Cymorth ffordd iach o fyw
  • Atgyfeiriadau eiriolaeth
  • Gwybodaeth a chyngor cyffredinol

Mae eu gwasanaethau yn rhad ac am ddim, heb brawf modd, ac yn agored i unrhyw un 50 oed a hŷn, er mai oedran cyfartalog y rhai sy'n derbyn cymorth oedd 81.

Gall y galwadau brys, sy'n aml yn cael eu sbarduno gan larwm llinell ofal, osgoi gwasanaethau eraill rhag cymryd rhan - fel ambiwlans, meddyg teulu neu ofal cartref - tua 50% o'r amser. Ac ar rai achlysuron maen nhw wedi achub bywydau.

Mae Roy, o Nortyn, wedi derbyn cymorth gan Gymorth Cartref Dwyrain Maesyfed, a leolir yn Llanandras, ar sawl achlysur, ar ôl cwympo yn ei gartref, gan gynnwys derbyn CPR gan yr Uwch Weithiwr Cymorth, Sharon Owen, nes i Ymatebwr Cyntaf o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyrraedd a darparu cymorth meddygol pellach.

Mae hefyd wedi derbyn cymorth i gyrraedd llawer o apwyntiadau ysbyty a dywedodd: "Mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd mewn ffordd sydd mor braf fel bod pobl fel Pam (ei wraig) a minnau yn derbyn gofal da. Mae gennym ni bobl ar ddiwedd y ffôn a does dim problemau gennym, fel sydd gan lawer iawn o ardaloedd yn y DU.

"Yn ffodus, mae pobl fel Sharon (Owen) yn barod i wneud yr holl waith yma i wneud ein bywydau gymaint yn haws. Ac rwy'n credu bod arnon ni ddiolch efnawr i chi a'ch cydweithwyr. Mae'n neis iawn. Mae'n nefoedd."

Ychwanegodd Pam: "Un tro pan syrthiodd Roy yn yr ystafell ymolchi, doedd ambiwlans ddim yn gallu cyrraedd yma am wyth awr, ac nid oedd unrhyw ffordd y gallai orwedd yno am wyth awr, ac fe wnaethon nhw (Cymorth Cartref Dwyrain Maesyfed) ei godi. Roedd yn anodd iawn, ond fe wnaethon nhw ei godi."

Dywedodd Anne, o Lanfair-ym-Muallt, a gafodd gymorth ar ôl cwympo oddi ar ei sgwter i'r ffordd, y tu allan i swyddfa Cymorth Cymunedol y dref: "Ni allaf ddiolch digon i Gymorth Cartref. Rydych chi wedi bod yn amhrisiadwy trwy gydol fy namwain, ac mewn gwirionedd, rydych chi wedi bod yn angylion gwarcheidiol i mi."

Mae'r ddwy elusen yn derbyn Cyllid Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys (y Bwrdd).

Dywedodd Cyd-Is-gadeirydd y Bwrdd, y Cynghorydd Pete Roberts: "Mae'r ddwy elusen hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cymorth cynnar, sy'n galluogi pobl hŷn fel Roy, Pam ac Anne i barhau i fyw'n annibynnol gartref, gan atal pethau rhag gwaethygu i'r pwynt lle mae angen cymorth mwy costus arnynt, mor gyflym.

"Mae'n fodel yr hoffem ei weld yn cael ei ailadrodd mewn mwy o rannau o Bowys, gan ei fod yn helpu i fynd i'r afael â'n hardal wledig, anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio ac mewn rhai ardaloedd, prinder gweithlu.

"Pan fo cymorth cartref yn gweithio'n dda, mae'n gwella lles a gwytnwch preswylwyr ac yn atal ynysu ac iechyd gwael."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gofal Dwyrain Sir Faesyfed: "Mae Cymorth Cartref Dwyrain Maesyfed wedi bod yn rhedeg ers wyth mlynedd ac wedi profi bod y model yn llwyddiant ysgubol. Mae cynnig ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i dros 350 o aelodau yn heriol iawn ond hefyd yn gwbl werth chweil. Does neb eisiau aros wyth awr am ambiwlans ar ôl codwm, sy'n debygol iawn yn yr hinsawdd bresennol, ac mae cael staff ar alw i ymateb i argyfwng yn amhrisiadwy.  

"Mae hyn i gyd wedi bod yn bosibl gyda chyllid y Bwrdd, ac rydym yn gobeithio gallu symud ymlaen i gyllid prif ffrwd i ganiatáu i ardaloedd eraill ddatblygu gwasanaethau Cymorth Cartref ym mhob ardal ym Mhowys."

I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Cartref Dwyrain Maesyfed, ewch i wefan Gofal Dwyrain Sir Faesyfed: https://eastradnorshirecare.co.uk/east-radnor-home-support neu ffoniwch: 01544 260267

I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Cartref Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, ewch i wefan Cymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt: https://www.builthcs.co.uk/home-support ffoniwch: 01982 553647 neu e-bostiwch: homesupport@builthcs.co.uk

Darperir Cymorth Cartref hefyd yn ardaloedd Llandrindod a Rhaeadr Gwy, a Llanidloes, lle mae'n cael ei ariannu a'i weithredu gan Gyngor Sir Powys. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y cyngor: Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref  neu ffoniwch: 01597 810204

LLUN: Roy a Pam o Norton gyda'r Uwch Weithiwr Cymorth Sharon Owen o Ofan Dwyrain Sir Faesyfed.

Rhannwch y dudalen hon