Toglo gwelededd dewislen symudol

Clos Robert Owen yn bywiogi drwyddo gyda 32 o gartrefi modern, fforddiadwy i'r Drenewydd

Image of representatives from Powys County Council, J Harper and Sons and Newtown and Llanllwchaiarn Town Council attended the official opening of new council housing development in Newtown – Clos Robert Owen.

16 Mawrth 2026

Image of representatives from Powys County Council, J Harper and Sons and Newtown and Llanllwchaiarn Town Council attended the official opening of new council housing development in Newtown – Clos Robert Owen.
Mae datblygiad tai cyngor newydd sbon gwerth £6.6m, sydd wedi arwain at adeiladu 32 o gartrefi un ystafell wely yn y Drenewydd, wedi ei agor yn swyddogol gan y cyngor sir.

Clos Robert Owen yw'r datblygiad tai diweddaraf i'w gwblhau gan Gyngor Sir Powys, ac mae'n cynnig  32 o gartrefi modern, ag inswleiddio trylwyr sy'n ecogyfeillgar wedi eu hadeiladu ar gyn safle swyddfeydd y cyngor sef Tŷ Robert Owen.

Wedi'i adeiladu gan J Harper and Sons ar ran y cyngor, mae'r datblygiad yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy yn y dref.

Cafodd gwesteion daith o amgylch y datblygiad newydd fel rhan o'r agoriad swyddogol, a gynhaliwyd ddydd Iau, 12 Mawrth. Ymhlith y gwesteion yn yr agoriad swyddogol roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys, J Harpers and Sons yn ogystal â Chyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn.

Diolch i Grant Tai Cymdeithasol gwerth £4.9m gan Lywodraeth Cymru, mae'r cartrefi newydd sydd â sgôr EPC A wedi'u dylunio gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern, gyda'r nod o gyflawni perfformiad ynni rhagorol.

Wedi'i leoli dim ond taith gerdded fer o ganol y dref, ysgolion, siopau a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mae'r datblygiad yn cynnig cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel mewn lleoliad gwych. Mae gwelliannau amgylcheddol hefyd wedi'u gwneud ar y safle, gan gael gwared ar goed o ansawdd gwael neu goed nad oeddent yn iach,  a phlannu o'r newydd i wella'r amgylchedd lleol.

Bydd yr holl eiddo yn cael eu gosod gan y cyngor ar gontractau diogel, gan roi cyfle gwirioneddol i denantiaid wneud y cartrefi yn 'gartrefi am byth'.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae gweld Clos Robert Owen yn agor yn swyddogol yn foment wych i'r Drenewydd. Nid brics a morter yn unig yw'r 32 fflat newydd hyn - maen nhw'n gartrefi cynnes, modern a fforddiadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

"Mae hefyd yn teimlo'n briodol bod y datblygiad hwn wedi ei enwi ar ôl Robert Owen, un o feibion mwyaf dylanwadol y Drenewydd. Gwnaeth ei gred mewn urddas, tegwch a lles cyfunol helpu i siapio'r mudiad cydweithredol modern, ac mae'r egwyddorion hynny'n parhau i ysbrydoli'r ffordd rydyn ni'n gweithio heddiw i wella bywydau a chryfhau cymunedau.

"Mae adeiladu Powys Decach yn golygu darparu'r cartrefi cywir yn y lleoedd cywir, ac mae'r datblygiad hwn yn dangos yn union beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio'n agos at bartneriaid ac yn gwneud y gorau o gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n hynod falch bod y cartrefi hyn o ansawdd uchel, ynni effeithlon bellach yn barod ar gyfer preswylwyr, ac wrth fy modd i weld yr effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael ar ein cymuned."

Mae'r cartrefi, sy'n eiddo i'r cyngor ac sy'n cael eu rheoli ganddo, bellach wedi'u dyrannu o dan bolisi dyrannu Cartrefi ym Mhowys, gyda'r holl denantiaid â chysylltiad lleol â'r Drenewydd ac yn paratoi i symud i'w cartrefi newydd cyn bo hir.

Mae 'Cartrefi ym Mhowys' yn caniatáu i unrhyw un sy'n chwilio am gartref gwirioneddol fforddiadwy, diogel wneud un cais ac yna cael eu hystyried gan y cyngor ac wyth cymdeithas dai am le newydd i fyw ynddo.

Gallwch ddarganfod mwy am y Cynllun Dyrannu Cyffredin a gwneud cais am dai cymdeithasol yma Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

I ddarganfod mwy am ymrwymiad y cyngor i ddatblygu 350 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol, ewch i Datblygu Tai

 

Rhannwch y dudalen hon