Toglo gwelededd dewislen symudol

Gosod Mesurau Arbennig ar Ysgol Uwchradd Llanidloes yn dilyn ymweliad Estyn

Image of a secondary school classroom

17 Mawrth 2026

Image of a secondary school classroom
Mae tîm o uwch swyddogion addysg eisoes yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn arolygiad siomedig gan Estyn, mae'r cyngor sir wedi cadarnhau.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Uwchradd Llanidloes ar ôl i arolygwyr Estyn fod o'r farn bod angen gosod mesurau arbennig ar yr ysgol.

Ymwelodd arolygwyr â'r ysgol ym mis Chwefror 2026, ac maent wedi canfod nad oedd yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn argymhellion allweddol o'i harolygiad craidd blaenorol.

Derbyniwyd y canfyddiadau gan yr ysgol a'r cyngor a byddant yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i yrru gwelliant. Bydd swyddogion y cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda'i gilydd i nodi'r rhesymau y tu ôl i ganlyniad yr arolygiad a sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu cyflawni.

Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael eu cefnogi'n llawn drwy gydol y broses wella.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn ganlyniad siomedig iawn i bawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd Llanidloes, ac rwy'n cydnabod yn llwyr y pryder y bydd hyn yn ei achosi i rieni, dysgwyr a staff.

"Mae adroddiad Estyn yn cynnig asesiad clir a gonest o ble mae angen gwelliant brys - yn enwedig o ran arweinyddiaeth, ansawdd addysgu, datblygu sgiliau a phresenoldeb . Mae'r heriau hyn yn sylweddol, ond mae modd eu goresgyn, hefyd.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio ochr‑yn‑ochr â'r ysgol i fynd i'r afael â'r materion hyn yn gyflym.

"Drwy ganolbwyntio'n gadarn ar argymhellion Estyn ac adeiladu ar gryfderau'r ysgol - fel perthnasoedd cadarnhaol rhwng athro a disgybl - byddwn yn sicrhau bod addysgu a dysgu yn gwella a bod yr ysgol yn symud ymlaen ar sail sefydlog a chynaliadwy."

Dywedodd Clare Bound, Cadeirydd Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes: "Er ein bod wedi'n siomi gan gynnwys yr adroddiad, rydym yn derbyn ei ganfyddiadau ac yn gweld hwn fel cyfle pwysig i ailosod a chryfhau cyfeiriad yr ysgol.

"Mae'r corff llywodraethu, yr uwch dîm arweinyddiaeth a'r staff wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino ochr yn ochr â'r cyngor ac Estyn i sicrhau gwelliannau cyflym a pharhaus ar draws yr ysgol."

Bydd y cyngor nawr yn gweithio gyda'r ysgol i ddatblygu cynllun gweithredu, y bydd Estyn yn ei adolygu i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol.

Bydd arolygwyr yn ailymweld â'r ysgol o fewn y pedwar i chwe mis nesaf i fonitro cynnydd.

Rhannwch y dudalen hon