Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru
18 Mawrth 2026
O ganlyniad, mae ychydig dros £13 miliwn o gyllid wedi'i ddyrannu i wella trafnidiaeth ledled Canolbarth Cymru, wrth i'r rhanbarth symud o gynllunio strategol tuag at welliannau ymarferol ar lawr gwlad.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn fuddsoddiad cyfalaf, sy'n golygu y caiff ei wario ar welliannau ffisegol sy'n canolbwyntio ar ddarparu seilwaith trafnidiaeth sy'n gwella teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol, seilwaith bysiau, gwefru cerbydau trydan a gwelliannau wedi'u targedu i lwybrau a lleoedd allweddol ar draws y rhanbarth.
Mae'r cyllid yn adeiladu'n uniongyrchol ar y blaenoriaethau a'r dystiolaeth a nodwyd yn Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, sy'n anelu at wella cysylltedd rhanbarthol, cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy, a gwella mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau a chymunedau mewn rhanbarth sy'n bennaf wledig ei natur. Mae hefyd yn adlewyrchu cydweithio parhaus rhwng awdurdodau lleol Canolbarth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru i ddarparu gwelliannau trafnidiaeth strategol ar lefel ranbarthol.
Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi'i lunio drwy ymgysylltu â chymunedau, busnesau a rhanddeiliaid ledled Canolbarth Cymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft yn gynnar yn 2025, gan wahodd pobl i rannu eu profiadau o deithio yn y rhanbarth a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Tynnodd yr adborth sylw at bwysigrwydd llwybrau cerdded a beicio mwy diogel, trafnidiaeth gyhoeddus well, gwell cysylltedd gwledig ac atebion trafnidiaeth sy'n adlewyrchu daearyddiaeth a chymeriad Canolbarth Cymru. Mae hyn wedi llywio'r cynllun terfynol a'r cynlluniau sydd bellach yn cael eu datblygu.
Mae'r cynlluniau sy'n cael eu symud ymlaen yn cynnwys:
- Cam 1 o waith teithio llesol Glannau Afon y Drenewydd
- Cam 1 o welliannau teithio llesol rhwng Aberhonddu a Groesffordd
- Cam 1 o drawsnewid Stryd Fawr Aberhonddu
- Gwelliannau i seilwaith bysiau ar draws y ddau awdurdod lleol
- Ehangu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y ddau awdurdod lleol
- Cwblhau gwelliannau troedffordd Waunfawr i IBERS
- Cam 1 o welliannau Cylchfan Ridgeway
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru a chadarnhau'r cyllid yn gam pwysig ymlaen i'n rhanbarth. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni symud o gynllunio tuag at gyflawni, a dechrau siapio gwelliannau trafnidiaeth sy'n ymateb i anghenion lleol. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus — mae eich barn wedi llywio'r cynllun hwn yn uniongyrchol a bydd yn parhau i arwain sut rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad ledled Canolbarth Cymru."
Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol llawn bellach ar gael ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth drafnidiaeth hirdymor y rhanbarth, ei flaenoriaethau a'r ymyriadau arfaethedig, gan ddarparu fframwaith strategol i arwain buddsoddiad, cynllunio a chyflawni trafnidiaeth yn y dyfodol ar draws Canolbarth Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau mwy na £13 miliwn o gyllid, fel rhan o'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, i gynghorau ledled Canolbarth Cymru. Mae hwn yn garreg filltir arwyddocaol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth, gan y bydd y cyllid hwn yn dod â budd uniongyrchol i gymunedau ar draws holl ardaloedd yr awdurdodau lleol, gan gyflwyno gwelliannau go iawn i fywydau beunyddiol pobl.
"Mae'r cynlluniau sy'n cael eu hariannu yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a gytunwyd mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, Tyfu Canolbarth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y cydweithio hwn yn helpu i ddarparu system drafnidiaeth gysylltiedig, gynaliadwy a fforddiadwy y mae pobl Canolbarth Cymru yn ei haeddu.
"O drawsnewid stryd fawr Aberhonddu i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngheredigion, rwy'n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau'r economi ac yn gwneud bywyd yn haws i bobl ledled y rhanbarth."
Wrth i'r gwaith symud ymlaen tuag at weithredu'r cynllun, anogir pobl a sefydliadau ledled Canolbarth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chymryd rhan. Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru i gael diweddariadau am y datblygiadau wrth i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei weithredu a symud i'r cam cyflawni: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron
