Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru

Image showing some of the schemes being progressed and transport developments in the region

18 Mawrth 2026

Image showing some of the schemes being progressed and transport developments in the region
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, a ddatblygwyd gan Tyfu Canolbarth Cymru fel Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, bellach wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

O ganlyniad, mae ychydig dros £13 miliwn o gyllid wedi'i ddyrannu i wella trafnidiaeth ledled Canolbarth Cymru, wrth i'r rhanbarth symud o gynllunio strategol tuag at welliannau ymarferol ar lawr gwlad.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn fuddsoddiad cyfalaf, sy'n golygu y caiff ei wario ar welliannau ffisegol sy'n canolbwyntio ar ddarparu seilwaith trafnidiaeth sy'n gwella teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol, seilwaith bysiau, gwefru cerbydau trydan a gwelliannau wedi'u targedu i lwybrau a lleoedd allweddol ar draws y rhanbarth.

Mae'r cyllid yn adeiladu'n uniongyrchol ar y blaenoriaethau a'r dystiolaeth a nodwyd yn Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, sy'n anelu at wella cysylltedd rhanbarthol, cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy, a gwella mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau a chymunedau mewn rhanbarth sy'n bennaf wledig ei natur. Mae hefyd yn adlewyrchu cydweithio parhaus rhwng awdurdodau lleol Canolbarth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru i ddarparu gwelliannau trafnidiaeth strategol ar lefel ranbarthol.

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi'i lunio drwy ymgysylltu â chymunedau, busnesau a rhanddeiliaid ledled Canolbarth Cymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft yn gynnar yn 2025, gan wahodd pobl i rannu eu profiadau o deithio yn y rhanbarth a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Tynnodd yr adborth sylw at bwysigrwydd llwybrau cerdded a beicio mwy diogel, trafnidiaeth gyhoeddus well, gwell cysylltedd gwledig ac atebion trafnidiaeth sy'n adlewyrchu daearyddiaeth a chymeriad Canolbarth Cymru. Mae hyn wedi llywio'r cynllun terfynol a'r cynlluniau sydd bellach yn cael eu datblygu.

Mae'r cynlluniau sy'n cael eu symud ymlaen yn cynnwys:

  • Cam 1 o waith teithio llesol Glannau Afon y Drenewydd
  • Cam 1 o welliannau teithio llesol rhwng Aberhonddu a Groesffordd
  • Cam 1 o drawsnewid Stryd Fawr Aberhonddu
  • Gwelliannau i seilwaith bysiau ar draws y ddau awdurdod lleol
  • Ehangu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y ddau awdurdod lleol
  • Cwblhau gwelliannau troedffordd Waunfawr i IBERS
  • Cam 1 o welliannau Cylchfan Ridgeway

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru a chadarnhau'r cyllid yn gam pwysig ymlaen i'n rhanbarth. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni symud o gynllunio tuag at gyflawni, a dechrau siapio gwelliannau trafnidiaeth sy'n ymateb i anghenion lleol. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus — mae eich barn wedi llywio'r cynllun hwn yn uniongyrchol a bydd yn parhau i arwain sut rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad ledled Canolbarth Cymru."

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol llawn bellach ar gael ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth drafnidiaeth hirdymor y rhanbarth, ei flaenoriaethau a'r ymyriadau arfaethedig, gan ddarparu fframwaith strategol i arwain buddsoddiad, cynllunio a chyflawni trafnidiaeth yn y dyfodol ar draws Canolbarth Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau mwy na £13 miliwn o gyllid, fel rhan o'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, i gynghorau ledled Canolbarth Cymru. Mae hwn yn garreg filltir arwyddocaol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth, gan y bydd y cyllid hwn yn dod â budd uniongyrchol i gymunedau ar draws holl ardaloedd yr awdurdodau lleol, gan gyflwyno gwelliannau go iawn i fywydau beunyddiol pobl.

"Mae'r cynlluniau sy'n cael eu hariannu yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a gytunwyd mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, Tyfu Canolbarth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y cydweithio hwn yn helpu i ddarparu system drafnidiaeth gysylltiedig, gynaliadwy a fforddiadwy y mae pobl Canolbarth Cymru yn ei haeddu.

"O drawsnewid stryd fawr Aberhonddu i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngheredigion, rwy'n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau'r economi ac yn gwneud bywyd yn haws i bobl ledled y rhanbarth."

Wrth i'r gwaith symud ymlaen tuag at weithredu'r cynllun, anogir pobl a sefydliadau ledled Canolbarth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chymryd rhan. Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru i gael diweddariadau am y datblygiadau wrth i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei weithredu a symud i'r cam cyflawni: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron

 

Rhannwch y dudalen hon