Buddsoddiad mewn ynni glân yn cryfhau ystâd gyhoeddus Powys
20 Mawrth 2026
Gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Llywodraeth Cymru, mae'r rhaglen wedi llwyddo i uwchraddio'n eang ar draws adeiladau'r cyngor, gan gynnwys paneli solar ffotofoltäig (PV), storfa batris, goleuadau LED, y gallu i fonitro ynni'n well a mannau gwefru cerbydau trydan.
Yn gyfan gwbl, mae systemau solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar 17 safle, gan ddarparu capasiti ar y cyd o 694 kWp, ochr yn ochr â 573 kWh o storfa batris. Gyda'i gilydd, rhagwelir y bydd y mesurau hyn yn arbed tua 600,000 kWh o ynni bob blwyddyn ac yn lleihau allyriadau carbon o tua 170 tCO₂e bob blwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae'r rhaglen hon yn gam sylweddol ymlaen yn ein huchelgais i adeiladu Powys gryfach, tecach a gwyrddach.
"Trwy fuddsoddi mewn ynni glân ar draws ein hystâd, rydym nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon a lleihau costau rhedeg, ond hefyd yn cymryd camau cadarnhaol i ddiwallu ein hanghenion ynni presennol ac yn y dyfodol.
"Mae'r gwelliannau hyn yn gwella gwytnwch ein hadeiladau cyhoeddus, gan helpu i amddiffyn gwasanaethau hanfodol rhag ansefydlogrwydd ynni a chostau anwadal.
"Mae hyn yn benderfyniad hirdymor, cyfrifol sy'n cryfhau diogelwch ynni lleol ac yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi'n ddoeth. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn dangos ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac ar yr un pryd darparu manteision gwirioneddol, parhaol i bobl Powys."
