Anrhydeddu pencampwr cymunedol y Drenewydd gyda Gwobr Barcud Arian
24 Mawrth 2026
Derbyniodd Helen Kynaston y wobr gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd William Powell, yn ystod ymweliad â Chegin Gymunedol y Drenewydd. Cafodd ei henwebu gan y Cynghorydd Joy Jones am ei chyfraniad eithriadol i les trigolion lleol.
Mae Helen wedi chwarae rhan ganolog wrth sefydlu a rhedeg Cegin Gymunedol y Drenewydd, a bu'n allweddol yn ystod pandemig COVID‑19, gan gydlynu'r broses o ddarparu miloedd o brydau bwyd i bobl oedd yn ynysu ac yn profi caledi ariannol.
Heddiw, mae'r gegin yn parhau i gynnig prydau poeth wythnosol, cegin gawl ar ddydd Iau, prydau gwyliau i blant, cymorth mewn digwyddiadau cymunedol, a gofod cynnes, cynhwysol i bawb. Mae Helen hefyd wedi helpu preswylwyr i gael mynediad at wasanaethau hanfodol a chreu cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon.
Dywedodd y Cynghorydd William Powell: "Mae arweinyddiaeth, tosturi ac ymrwymiad diwyro Helen wedi cryfhau calon gymuned y Drenewydd. Mae ei gwaith yn ymgorffori ysbryd y Wobr Barcud Arian, ac mae'n fraint cydnabod popeth y mae hi wedi'i chyflawni."
