Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog (CDP) ar gyfer eich ID Cyflenwr Unigryw / PPON: Canllaw Cam wrth Gam i Gyflenwyr

Daeth Deddf Caffael 2023 i rym ar 24 Chwefror 2025 sydd wedi arwain at nifer o newidiadau i'r ffordd y caffaelir nwyddau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.

Rhan allweddol o'r system newydd yw'r Platfform Digidol Canolog (CDP), y bydd angen i bob cyflenwr ei ddefnyddio.

Er mwyn tendro neu ddarparu dyfynbrisiau i'r sector cyhoeddus, rhaid i gyflenwyr:

  1. Gofrestru ar y CDP / Canfod Gwasanaeth Tendr (FTS)
  2. Cael eich ID cyflenwr unigryw / Rhif y Sefydliad Caffael Cyhoeddus (PPON)
  3. Ychwanegu'r ID hwn at eich proffil GwerthwchiGymru (os yw'n berthnasol)

Bydd hyn yn eich galluogi i barhau i dendro neu ddyfynbrisio ar gyfer contractau cyhoeddus.

Dim ond unwaith y mae angen i gyflenwyr gofrestru i greu eu ID cyflenwr/PPON.

 

Beth sydd angen i chi ei wneud Cam- wrth-Gam

 

Cam 1: Paratoi gwybodaeth eich cyflenwr craidd

 

Pam mae'r cam hwn yn bwysig

Bydd paratoi'r wybodaeth hon ymlaen llaw yn gwneud eich cofrestriad ar y Platfform Digidol Canolog (CDP) yn llawer cyflymach ac yn fwy didrafferth. Ar ôl i'ch manylion gael eu cofnodi, gellir eu storio a'u hailddefnyddio ar gyfer tendrau yn y dyfodol, felly ni fydd angen i chi gyflwyno'r un wybodaeth eto.

 

Bydd arnoch angen:

Gwybodaeth sylfaenol am y busnes

  • Enw'r sefydliad a chyfeiriad
  • Rhif Tŷ'r Cwmnïau neu rif y Comisiwn Elusennau
  • Rhif TAW (os yw'n berthnasol)
  • Cymwysterau perthnasol neu aelodaeth cymdeithas fasnach
  • Cadarnhad a ydych chi'n BBaChau, VCSE, neu gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus

 

Mae'r wybodaeth ganlynol hefyd yn ofynnol i gwblhau eich cyfrif CDP yn llawn, ond nid yw'n ofynnol i greu cyfrif yn y lle cyntaf a derbyn eich dynodwr unigryw:

Gwybodaeth ariannol

  • Cyfrifon blynyddol diweddaraf

Unigolion cysylltiedig

  • Enwau, cyfeiriadau a manylion unigolion sydd â rheolaeth neu ddylanwad sylweddol

Gwybodaeth am waharddiadau

  • Manylion unrhyw seiliau gwahardd gorfodol neu yn ôl disgresiwn
    (fel y nodir yn Atodlenni 6 a 7 o'r Ddeddf Caffael)

 

Cam 2: Cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog (CDP) / Canfod Gwasanaeth Tendr (FTS)

 

Pam mae'r cam hwn yn bwysig:

Mae rhaid i chi gwblhau'r cam hwn i dderbyn eich ID cyflenwr unigryw. Mae'r ID hwn yn hanfodol, gan na fyddwch yn gallu tendro o dan reoliadau'r Ddeddf Caffael newydd hebddo.

Sut i gofrestru

  1. Ewch i Canfod Tendr: https://www.find-tender.service.gov.uk/Search
    CDPimg01CYM
  2. Crëwch gyfrif (neu ail gofrestrwch‑os oes gennych un eisoes).
    CDPimg02CYM
  3. Nodwch fanylion eich sefydliad gan ddilyn y camau ar y‑sgrin.
  4. Ar ôl cwblhau, bydd y system yn cynhyrchu eich ID cyflenwr unigryw/PPON, yn y fformat hwn:
     PPON ABCD‑1111‑EFGH
  5. Cofnodwch a chadwch y wybodaeth hon a'i chyflwyno ar gais.

Canllawiau defnyddiol

 

Cam 3: Cysylltu ID eich cyflenwr â GwerthwchiGymru

Pam mae'r cam hwn yn bwysig:

Dylai cyflenwyr sydd â chyfrifon ar GwerthwchiGymru hefyd gysylltu eu ID cyflenwr unigryw/PPON â'u cyfrif. 

Sut i gysylltu eich ID

  1. Mewngofnodwch i GwerthwchiGymru: Mewngofnodi
  2. Ewch i'r Panel Rheoli Cyflenwyr
  3. Dewiswch Broffil y cwmni o dan y pennawd Fy Mhroffil.
  4. Sgroliwch i'r adran Platfform Digidol Canolog (CDP)
  5. Nodwch eich ID cyflenwr unigryw yn y blwch Dynodwr Unigryw (UI)
  6. Dewiswch Cadw newidiadau

Bydd eich cyfrif GwerthwchiGymru nawr wedi'i gysylltu'n gywir â'r CDP.

 

Canllawiau Defnyddiol

Deddf Caffael 2023: Camau allweddol i gyflenwyr - GwerthwchiGymru

 

Crynodeb o'ch camau allweddol

✔ Cofrestru ar y CDP / Canfod Gwasanaeth Tendro

✔ Casglu a chyflwyno eich gwybodaeth graidd y cyflenwr

✔ Dod o hyd i'ch ID cyflenwr unigryw a'i gadw

✔ Ychwanegu eich ID cyflenwr i GwerthwchiGymru

 

Adnoddau defnyddiol eraill

Deddf Caffael 2023: Camau allweddol i gyflenwyr - GwerthwchiGymru

Trosolwg o'r platfform digidol canolog, gwasanaeth Dod o Hyd i Dendr gwell

Sut mae gweinyddwr yn cwblhau a diweddaru gwybodaeth am gyflenwr (fideo)

Sut i gofrestru eich sefydliad a'ch gweinyddwr cyntaf (fideo)

Cyfarwyddiadau cofrestru cam wrth gam

 

 

 

 

 

 

 

Rhannwch y dudalen hon