Is-etholiad De Llandrindod i'w gynnal
16 Ebrill 2026
Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal i lenwi swydd wag De Llandrindod yn dilyn ymddiswyddiad Josie Ewing ym mis Mawrth.
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai, 2026.
Mae saith ymgeisydd yn sefyll yn is-etholiad y cyngor sir, fel a ganlyn:
- John Ball (Reform UK Cymru)
- Janet Ruth Barker (Plaid Werdd Cymru)
- Mark Edward Burton (Plaid Geidwadol Cymru)
- Lauren D'Silva (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
- Thomas Owen Duggan (Plaid Cymru)
- Christopher Moore (Annibynnol)
- Paul Smith (Annibynnol)
Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio tan ddydd Llun, 20 Ebrill, 2026 i gofrestru er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn. I gofrestru i bleidleisio ewch i Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK
Dylai etholwyr nodi bod rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais sy'n bodoli eisoes gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mawrth, 21 Ebrill, 2026.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mawrth, 28 Ebrill, 2026. Gellir dod o hyd i ffurflen gais am ddirprwy yn Etholiadau a phleidleisio
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel
