Athrawon a disgyblion Ysgol Dolafon yn dathlu carreg filltir gadarnhaol Estyn
23 Ebrill 2026
Mae'r ysgol wedi cael ei thynnu'n swyddogol oddi ar restr Estyn o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol, ar ôl i arolygwyr farnu ei bod wedi gwneud cynnydd digonol wrth fynd i'r afael ag argymhellion ei harolygiad craidd diweddaraf.
Mae'r penderfyniad, a groesawyd gan Gyngor Sir Powys, yn dilyn cyfnod o ganolbwyntio ar welliannau, arweinyddiaeth gryfach a chydweithrediad agos rhwng yr ysgol, y llywodraethwyr a'r cyngor.
Yn ystod yr ymweliad monitro ym mis Mawrth 2026, cydnabu Estyn welliannau clir ar draws yr ysgol. Tynnodd arolygwyr sylw at arweinyddiaeth gryfach ar bob lefel, gyda staff bellach yn chwarae rhan weithredol mewn hunanwerthuso ac yn meddu ar ddealltwriaeth gliriach o gryfderau a blaenoriaethau gwella'r ysgol.
Mae ansawdd yr addysgu wedi gwella ar draws yr ysgol, gyda pherthnasoedd cadarnhaol yn creu amgylchedd dysgu pwrpasol lle mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd priodol fan lleiaf. Nododd Estyn ddisgwyliadau mwy cyson ar gyfer dilyniant sgiliau, deialog broffesiynol gryfach rhwng staff, a defnydd cynyddol o wybodaeth asesu i lywio cynllunio a chefnogi cynnydd disgyblion.
Canmolodd yr adroddiad ddatblygiadau i'r cwricwlwm hefyd, sy'n dod yn fwy diddorol a phwrpasol. Caiff disgyblion gyfleoedd fwyfwy i wneud dewisiadau a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, gan helpu i ddatblygu hyder ac annibyniaeth. Mae'r cwricwlwm yn adlewyrchu cyd-destun lleol yr ysgol yn dda, gan gynnwys cyfleoedd cynyddol i ddisgyblion ddysgu am dreftadaeth a hanes Cymru.
Nodwyd gwelliannau mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd. Mae ymyriadau darllen wedi'u targedu yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltu a chynnydd, mae safonau ysgrifennu yn gwella'n raddol, ac mae ymagwedd gydlynol yr ysgol drwyddi draw at fathemateg yn cefnogi datblygiad sgiliau cryfach a'r defnydd ohono mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Cydnabu Estyn fod gan yr ysgol ddealltwriaeth glir o'i chamau nesaf ar gyfer gwella, gan gynnwys ymgorffori mwy o gysondeb mewn arferion adborth a gwneud defnydd pellach o'i hamgylchedd dysgu awyr agored helaeth i gefnogi datblygiad disgyblion.
Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Powys: "Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn i Ysgol Dolafon ac, yn bwysicaf oll, i'w dysgwyr. Mae'r cynnydd a gydnabyddir gan Estyn yn adlewyrchu ffocws clir ar wella ansawdd addysgu a dysgu, gan sicrhau y caiff plant eu cefnogi, eu herio a'u hannog i ffynnu.
"Mae'n arbennig o galonogol gweld gwelliannau yn yr ystafell ddosbarth a chysondeb addysgu, sydd o fudd uniongyrchol i ddisgyblion ac yn helpu i sicrhau bod dysgwyr ym Mhowys yn mwynhau'r safonau uchel o addysgu y maent yn eu haeddu.
"Mae'r ysgol wedi gweithio ar y cyd â'r cyngor i gryfhau arweinyddiaeth, miniogihunanwerthuso a gwella profiadau dysgu, ac mae hyn yn cael effaith ystyrlon arhyder, ymgysylltiad a chynnydd pobl ifanc.
"Tra bod y daith o welliant yn parhau, mae canfyddiadau Estyn yn dangos bod gan yr ysgol y gallu arweinyddol, y systemau a'r eglurder o gyfeiriad sydd eu hangen i gynnal cynnydd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r ysgol i adeiladu ar y sylfeini hyn a sicrhau bod gwelliannau parhaus yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad pob dysgwr."
Dywedodd Chris Davies, Pennaeth Dros Dro Ysgol Dolafon: "Rydym wrth ein bodd gyda chydnabyddiaeth Estyn o'n llwyddiannau a'n cynnydd. Rydym wedi gweithio ar y cyd â'n plant, staff, llywodraethwyr, awdurdod lleol, rhieni a'r gymuned ehangach i ddod â newid, a gyrru gwelliant ystyrlon ar draws ein hysgol, yn unol â'n gweledigaeth o 'un teulu mawr'.
"Mae'n braf bod Estyn wedi cydnabod ein perthnasoedd gwaith cefnogol gyda'n plant, ein diwylliant pwrpasol o ddysgu proffesiynol a'r gwelliannau clir a wnaed yn ansawdd yr addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol.
"Rydym wedi gweithio'n galed i gyd-adeiladu a gweithredu ein cwricwlwm 'Teulu', sy'n seiliedig ar brofiadau dysgu dilys a phwrpasol, gan ddarparu sylfaen gadarn i'n plant ffynnu a gwneud cynnydd.
"Mae'n gyffrous gweld ein plant yn cael llais yn eu dysgu, gwneud dewisiadau a chymryd mwy o gyfrifoldeb, sy'n meithrin mwy o chwilfrydedd, brwdfrydedd ac annibyniaeth.
"Fel y Pennaeth Dros Dro, rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'n taith wella barhaus ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiannau, gan sicrhau fod ein hysgol y lle gorau y gall fod i'n plant a'n cymuned."
I weld yr adroddiad ewch i Ysgol Dolafon - Estyn
