Pobl ifanc wedi'u gwahodd i wirfoddoli gyda llyfrgelloedd Powys yr haf hwn
28 Ebrill 2026
Mae Her Ddarllen yr Haf, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ddarllen, yn annog plant 4 i 11 oed i ddarllen er mwyn pleser yn ystod gwyliau'r haf. Mae thema eleni, Darllen i'r Curiad (Read to the Beat), yn dathlu cerddoriaeth, rhythm a chreadigrwydd, gan ysbrydoli plant i ddarganfod straeon newydd wrth gael hwyl.
Bydd gwirfoddolwyr wedi'u lleoli yn eu llyfrgell leol ym Mhowys a byddant yn cefnogi teuluoedd sy'n cymryd rhan yn yr her drwy helpu plant i gofrestru, dewis llyfrau, olrhain eu cynnydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r thema. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys helpu i greu arddangosfeydd, paratoi adnoddau ar gyfer sesiynau gweithgareddau a chefnogi digwyddiadau llyfrgell.
Dywedodd Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant: "Byddem wrth ein bodd yn clywed gan bobl ifanc ledled Powys sydd eisiau cefnogi darllen plant yr haf hwn. Mae'r cyfle gwirfoddoli hwn yn ffordd wych o fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol yn eich cymuned leol, eich helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau ac ennill profiad a allai eich helpu gyda cheisiadau am swyddi, prentisiaethau neu ddatganiadau personol UCAS yn y dyfodol."
Mae'r cyfle ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 25 oed sy'n gyfeillgar, yn ddibynadwy ac yn gyfforddus yn ymgysylltu â phlant a theuluoedd.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gan y bydd canllawiau llawn, sesiwn gynefino a chefnogaeth barhaus yn cael eu darparu gan staff y llyfrgell.
Bydd angen gwiriad DBS manwl ar wirfoddolwyr 16-25 oed, a fydd yn cael ei drefnu fel rhan o'r broses.
Yr ymrwymiad amser yw un i dair awr yr wythnos o ganol -mis Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Awst.
Yn gyfnewid, bydd gwirfoddolwyr yn ennill profiad o weithio gyda'r cyhoedd, yn datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm, yn meithrin hyder mewn rôl sy'n wynebu- cwsmeriaid ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i hyder darllen plant.
Gall pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli wneud cais ar-lein drwy dudalen Gwirfoddolwyr Her Ddarllen yr Haf yma: https://storipowys.org.uk/gwirfoddolwyr-sialens-ddarllen-yr-haf/?lang=cy.
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 5Mehefin .
Gall unrhyw un sydd â chwestiynau hefyd gysylltu â'u llyfrgell leol ym Mhowys i gael rhagor o wybodaeth.
Am bob cyfle gwirfoddoli arall gyda Gwasanaethau Diwylliannol, ewch i: https://storipowys.org.uk/join-us/volunteering-current-opportunities/?lang=cy
