Cyhoeddi adroddiad arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Crughywel
1 Mai 2026
Disgrifiodd arolygwyr yr ysgol fel cymuned ofalgar a chynhwysol lle mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel, wedi'u cefnogi ac yn falch o'u hysgol. Cadarnhaodd yr arolygiad fod trefniadau diogelu yn effeithiol, bod ymddygiad yn gyffredinol gadarnhaol, a bod disgyblion yn elwa o ystod eang o weithgareddau cyfoethogi, cyfleoedd arweinyddiaeth a chymorth bugeiliol.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi effaith gadarnhaol arweinyddiaeth y pennaeth ers ei benodi ym mis Medi 2025, gan gynnwys cyfeiriad strategol cliriach, arferion diogelu cryfach a chamau i wella ymddygiad ac agweddau ar addysgu.
Fodd bynnag, mae canfyddiadau Estyn yn nodi'n glir bod yr ysgol yn wynebu nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau gwelliant pellach ac maen nhw wedi darparu chwe argymhelliad. Mae'r argymhellion wedi'u rhestru isod:
- Datblygu hunanwerthuso a chynllunio gwelliant fel eu bod yn canolbwyntio'n fwy manwl ar effaith y ddarpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion
- Gwella addysgu i sicrhau bod disgwyliadau bob amser yn ddigon uchel a bod pob disgybl yn derbyn her briodol
- Gwella presenoldeb
- Cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn pynciau perthnasol ar draws y cwricwlwm
- Sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at yr ystod lawn o brofiadau dysgu tan ddiwedd Blwyddyn 9
- Sicrhau rheolaeth a monitro cadarn o'r gyllideb.
Er bod presenoldeb wedi gwella dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tynnodd yr arolygwyr sylw at y ffaith ei fod yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig ac yn is na lefelau ysgolion tebyg. Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon am ddiffyg cyllideb parhaus yr ysgol.
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio'n agos gyda'r tîm arwain a chorff llywodraethu'r ysgol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu clir gyda ffocws i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn. Bydd hyn yn cynnwys her a chefnogaeth briodol i fwrw ymlaen â'r meysydd a nodwyd i'w gwella a chryfhau canlyniadau i ddysgwyr.
Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae arolygiad Estyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol, yr ethos cynhwysol a'r diwylliant diogelu cryf yn Ysgol Uwchradd Crughywel.
"Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd clir lle mae angen gwelliant pellach, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r ysgol a'r corff llywodraethu i sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu hystyried a gwelliannau parhaus yn cael eu sicrhau i ddisgyblion."
Bydd yr ysgol yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau eu bod yn cynhyrchu cynllun datblygu cadarn sy'n mynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn llawn.
I weld yr adroddiad ewch i Crickhowell High School - Estyn
