Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi adroddiad arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Crughywel

Image of a secondary school classroom

1 Mai 2026

Image of a secondary school classroom
Mae Ysgol Uwchradd Crughywel, sy'n gwasanaethu teuluoedd ar draws de Powys, wedi cael ei chydnabod gan Estyn am ei chydberthynasau cadarnhaol a'i diwylliant diogelu, ond dywedod yr arolygwyr fod angen gwelliant parhaus pellach ar draws sawl maes pwysig o waith yr ysgol.

Disgrifiodd arolygwyr yr ysgol fel cymuned ofalgar a chynhwysol lle mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel, wedi'u cefnogi ac yn falch o'u hysgol. Cadarnhaodd yr arolygiad fod trefniadau diogelu yn effeithiol, bod ymddygiad yn gyffredinol gadarnhaol, a bod disgyblion yn elwa o ystod eang o weithgareddau cyfoethogi, cyfleoedd arweinyddiaeth a chymorth bugeiliol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi effaith gadarnhaol arweinyddiaeth y pennaeth ers ei benodi ym mis Medi 2025, gan gynnwys cyfeiriad strategol cliriach, arferion diogelu cryfach a chamau i wella ymddygiad ac agweddau ar addysgu.

Fodd bynnag, mae canfyddiadau Estyn yn nodi'n glir bod yr ysgol yn wynebu nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau gwelliant pellach ac maen nhw wedi darparu chwe argymhelliad. Mae'r argymhellion wedi'u rhestru isod:

  • Datblygu hunanwerthuso a chynllunio gwelliant fel eu bod yn canolbwyntio'n fwy manwl ar effaith y ddarpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion
  • Gwella addysgu i sicrhau bod disgwyliadau bob amser yn ddigon uchel a bod pob disgybl yn derbyn her briodol
  • Gwella presenoldeb
  • Cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn pynciau perthnasol ar draws y cwricwlwm
  • Sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at yr ystod lawn o brofiadau dysgu tan ddiwedd  Blwyddyn 9
  • Sicrhau rheolaeth a monitro cadarn o'r gyllideb.

Er bod presenoldeb wedi gwella dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tynnodd yr arolygwyr sylw at y ffaith ei fod yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig ac yn is na lefelau ysgolion tebyg. Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon am ddiffyg cyllideb parhaus yr ysgol.

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio'n agos gyda'r tîm arwain a chorff llywodraethu'r ysgol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu clir gyda ffocws i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn. Bydd hyn yn cynnwys her a chefnogaeth briodol i fwrw ymlaen â'r meysydd a nodwyd i'w gwella a chryfhau canlyniadau i ddysgwyr.

Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae arolygiad Estyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol, yr ethos cynhwysol a'r diwylliant diogelu cryf yn Ysgol Uwchradd Crughywel.

"Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd clir lle mae angen gwelliant pellach, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r ysgol a'r corff llywodraethu i sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu hystyried a gwelliannau parhaus yn cael eu sicrhau i ddisgyblion."

Bydd yr ysgol yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau eu bod yn cynhyrchu cynllun datblygu cadarn sy'n mynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn llawn.

I weld yr adroddiad ewch i Crickhowell High School - Estyn

Rhannwch y dudalen hon