Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwyr yn ffynnu wrth i Estyn cydnabod addysgu sy'n gwella yn Ysgol Cefnllys

Image of a primary school classroom

8 Mai 2026

Image of a primary school classroom
Mae adroddiad arolygiad newydd gan Estyn sy'n dangos bod  dysgwyr yn Ysgol Cefnllys yn ffynnu mewn amgylchedd di-gynnwrf a chynhwysol, lle mae addysgu a chydberthynasau cryf sy'n gwella yn eu helpu i dyfu mewn hyder, annibyniaeth ac uchelgais wedi cael ei groesawu gan Gyngor Sir Powys.

Canfu arolygwyr fod disgyblion wrth wraidd gwaith yr ysgol, gyda'r mwyafrif yn teimlo'n ddiogel, wedi'u cefnogi ac yn barod i ddysgu.

Mae'r addysgu ar draws yr ysgol yn effeithiol, ac mae dysgu proffesiynol diweddar wedi cryfhau cysondeb ac ansawdd yn yr ystafelloedd dosbarth. O ganlyniad, mae dysgwyr yn elwa o wersi diddorol sy'n datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dysgu annibynnol cryf, tra hefyd yn cefnogi eu lles.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gymorth eithriadol yr ysgol ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed, gan gynnwys disgyblion sydd â phrofiad o ofal a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Canmolwyd y staff gan yr arolygwyr am greu diwylliant gofalgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn cael eu deall fel unigolion a'u cefnogi i wneud cynnydd cadarnhaol o'u mannau cychwyn.

Wrth groesawu'r canfyddiadau, dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Hoffwn longyfarch staff, y tîm arwain a'r llywodraethwyr yn Ysgol Cefnllys ar y gwaith a gydnabyddir yn yr adroddiad hwn. Mae Estyn yn tynnu sylw at ysgol sy'n deall ei dysgwyr ac sy'n parhau i gryfhau ansawdd yr addysgu maen nhw'n ei brofi bob dydd.

"Mae arolygwyr wedi nodi sut mae dysgu proffesiynol pwrpasol yn gwella cysondeb yn yr ystafell ddosbarth, ac mae'r gwelliant hwnnw'n cael ei deimlo fwyaf gan y dysgwyr eu hunain.

"Mae ein dysgwyr ym Mhowys yn haeddu addysgu sy'n eu helpu i deimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn uchelgeisiol, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae ansawdd yr addysgu sy'n gwella yn Ysgol Cefnllys yn helpu pobl ifanc i fwynhau'r safonau addysg y maen nhw'n eu haeddu."

Hefyd, nododd Estyn bod presenoldeb a gwaharddiadau, ochr yn ochr â datblygiad parhaus cwricwlwm eang ac uchelgeisiol, yn flaenoriaethau ar gyfer gwelliant pellach.

Bydd y cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r ysgol a'i llywodraethwyr i gefnogi arweinwyr a staff wrth iddynt adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol hwn, gan sicrhau bod pob dysgwr yn elwa o brofiadau dysgu cyfoethog a disgwyliadau uchel ar gyfer eu dyfodol.

I weld yr adroddiad ewch i Ysgol Cefnllys - Estyn

 

Rhannwch y dudalen hon