Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebu cau campws Cradoc
11 Mai 2026
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau campws Cradoc Ysgol Golwg Pen y Fan ac yn gynharach eleni (Mawrth) cyhoeddodd hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol.
Yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, derbyniwyd un gwrthwynebiad.
Ddydd Mawrth, Mai 19, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebu a gofynnir iddo gymeradwyo'r cynnig i gau campws Cradoc gyda disgyblion yn trosglwyddo i gampysau eraill Ysgol Golwg Pen y Fan yn Aberhonddu.
Mae'r cynnig, sy'n cyd-fynd â Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, yn cael ei yrru gan ystod o fanteision addysgol a gweithredol.
Ochr yn ochr â hyn, mae cynlluniau ar gyfer adeilad newydd yr ysgol yn symud ymlaen gyda momentwm gwirioneddol ac mae'r cyngor wedi penodi Willmott Dixon fel prif gontractwr. Bydd y cyngor nawr yn gweithio gyda nhw ar ddylunio'r adeilad newydd, a phan fydd hwnnw wedi ei adeiladu, fe fydd yn darparu cartref bywiog, modern ar gyfer dysgu, twf, a chyfleoedd i ddisgyblion a staff.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n dysgu: "Ar ôl ystyried y gwrthwynebiad yn ofalus, byddaf yn argymell i'r Cabinet eu bod yn cymeradwyo'r cynnig i gau campws Cradoc Ysgol Golwg Pen y Fan.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr ac rydym yn credu y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.
"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, y niferoedd o ddisgyblion sy'n gostwng a'r nifer uchel o leoedd dros ben.
"Bydd dod â staff a disgyblion at ei gilydd yn cefnogi cydweithredu cryfach, yn caniatáu grwpio mwy effeithiol yn ôl gallu neu angen, ac yn meithrin datblygiad cymdeithasol trwy grwpiau cyfoedion mwy. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n fwy hyfyw i redeg clybiau, timau chwaraeon, a gweithgareddau cyfoethogi.
"Nid ar chwarae bach y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud, ond credwn ei fod yn rhoi mwy o sicrwydd cyn symud i'r adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Golwg Pen y Fan."
I ddarllen y Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 wedi'i diweddaru a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg
