Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahoddiad i landlordiaid Powys i fforwm newydd sy'n cynnig canllawiau clir ar newidiadau mawr i dai

Image of two pairs of hands, one signing a contract, with a model house in the background

13 Mai 2026

Image of two pairs of hands, one signing a contract, with a model house in the background
Mae landlordiaid preifat ledled Powys yn cael eu gwahodd gan y cyngor sir i gymryd rhan mewn fforwm newydd, a grëwyd i gynnig cefnogaeth ymarferol a sicrwydd wrth i'r sector tai wynebu newid deddfwriaethol a rheoleiddiol sylweddol.

Mae Fforwm y Landlordiaid, a lansiwyd gan Gyngor Sir Powys, wedi'i greu'n benodol mewn ymateb i bryderon a godwyd gan landlordiaid lleol, y mae llawer ohonynt yn wynebu gofynion cyfreithiol newydd ynghylch safonau eiddo, effeithlonrwydd ynni a rheoli tenantiaid.

Bydd y fforwm, a gynhelir o 5pm ddydd Llun, 29 Mehefin yn Neuadd y Sir, Llandrindod, yn dod ag arbenigwyr tai o'r cyngor ynghyd â chynrychiolwyr Rhentu Doeth Cymru, a bydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Newidiadau i ddeddfwriaeth tai a chyfrifoldebau landlordiaid
  • Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) a safonau eiddo
  • Cofrestru, trwyddedu a chydymffurfio
  • Camau ymarferol y gall landlordiaid eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Mae landlordiaid lleol yn rhan hanfodol o system dai Powys, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Rydym am gefnogi'r rhai sy'n darparu cartrefi o ansawdd da drwy leihau dryswch ac ansicrwydd a chynnig cyngor clir a syml.

"Drwy gydweithio'n agos â landlordiaid a gwrando ar y materion maen nhw'n eu codi, gallwn gryfhau perthnasoedd, gwella safonau, a helpu i greu marchnad dai decach a mwy sefydlog ledled y sir."

Mae'r Cynghorydd Jeremy Pugh, cynghorydd sir dros Lanfair-ym-Muallt a landlord ei hun, wedi croesawu sefydlu Fforwm y Landlordiaid.

"Mae landlordiaid yn delio â llawer o newid ar hyn o bryd, a gall hynny deimlo'n llethol - yn enwedig i landlordiaid lleol llai," meddai'r Cynghorydd Pugh.

"Mae'r fforwm hwn yn ymwneud â rhoi cyfle i bobl ofyn cwestiynau, cael gwybodaeth ddibynadwy, a chlywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n gyfrifol am gyngor a gorfodi. Fel landlord fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r eglurder hwnnw."

Anogir landlordiaid preifat i gofrestru a chyflwyno cwestiynau drwy e-bostio housing@powys.gov.uk. Bydd unrhyw gwestiynau a gyflwynir yn caniatáu i'r cyngor lunio'r agenda o amgylch y materion sydd bwysicaf yn lleol.

Lle bo modd, darperir ymatebion cyn y digwyddiad fel y gall y fforwm ei hun ganolbwyntio ar drafodaeth fanylach.

Rhannwch y dudalen hon