Y bysiau cyntaf ar eu newydd wedd yn cael eu croesawu mewn cam mawr i drafnidiaeth gyhoeddus
14 Mai 2026
Y bysiau hyn yw'r cyntaf o 15 o gerbydau i gael eu huwchraddio'n gynhwysfawr trwy gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru. Bydd y bysiau eraill a fydd yn cael eu hadnewyddu yn cael eu cyflwyno cam wrth gam rhwng nawr a mis Medi.
Mae'r buddsoddiad yn nodi carreg filltir bwysig yn ymrwymiad hirdymor Powys i wella gwasanaethau bysiau lleol a darparu rhwydwaith mwy modern, dibynadwy a hygyrch i deithwyr, gan gefnogi system drafnidiaeth gryfach, tecach a gwyrddach i gymunedau ledled y sir.
Mae'r bysiau ar eu newydd wedd yn dod ag amrywiaeth o welliannau i deithwyr, gan gynnwys:
- Gwybodaeth clyweledol fodern am yr "arhosfan nesaf" i gefnogi pob teithiwr, yn enwedig pobl hŷn a phobl ag anableddau.
- Arwyddion dwyieithog gwelll bob amser
- Seddi mwy cyfforddus
- Systemau CCTV newydd eu gosod i wella diogelwch
- Pyrth USB ar gael i'w defnyddio gan deithwyr yn ystod teithiau
- Peiriannau wedi'u hadnewyddu i wella dibynadwyedd
- Peiriannau Ewro 6, sy'n cynhyrchu allyriadau llawer is na cherbydau hŷn
Bydd y bysiau cyntaf hyn yn cael eu gweithredu gan Tanat Valley a Lloyds Coaches, gyda mwy yn ymuno â'r rhwydwaith mewn ardaloedd eraill a chyda gweithredwyr eraill dros y misoedd nesaf.
Mae'r fenter hon yn gam hanfodol mewn rhaglen drawsnewid ehangach ar gyfer gwasanaethau bysiau ym Mhowys, sy'n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru. Nod y rhaglen yw creu rhwydwaith mwy integredig sy'n canolbwyntio ar deithwyr, gyda gwell cydlyniad o lwybrau, prisiau ac amserlenni, gan helpu i ddarparu system drafnidiaeth sy'n gryfach o ran dibynadwyedd, yn decach o ran hygyrchedd ac yn fwy gwyrdd ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach. "Mae croesawu'r bysiau cyntaf hyn ar eu newydd wedd yn foment arwyddocaol i drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhowys. Bydd y buddsoddiad hwn o fudd uniongyrchol i deithwyr, yn darparu teithiau mwy dibynadwy, cyfforddus a hygyrch, tra hefyd yn lleihau allyriadau.
"Mae'n gam pwysig tuag at adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gryfach, yn decach ac yn fwy gwyrdd, gan gefnogi ein cymunedau, gwella cynhwysiant, a'n helpu i ymateb i her yr hinsawdd.
"Dim ond dechrau trawsnewidiad ehangach yw hwn a fydd yn gweld buddsoddiad parhaus mewn bysiau a gwasanaethau ledled y sir dros y blynyddoedd nesaf."
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio gyda Thrafnidiaeth Cymru, "Mae'r rhwydwaith Pontio i Fasnachfreinio yn gam pwysig i gyflawni system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig a hygyrch mewn partneriaeth â Phowys.
"Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd timau o bob rhan o Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin.
"Gan weithio law yn llaw â'n cadwyn gyflenwi, gweithredwyr a chydweithwyr ym Mhowys, rydym wedi cyflawni dull cydgysylltiedig sy'n ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid symud o gwmpas, gan gadw ffocws clir ar yr hyn sy'n dod nesaf."
DIWEDD
Llun: Croesawyd bysiau ar eu newydd wedd i Bowys yn Neuadd y Sir, Llandrindod. Y bysiau yw'r cyntaf o 15 sy'n cael eu huwchraddio i wella hygyrchedd, cysur a dibynadwyedd i deithwyr ledled y sir.
Chwith - Dde: Emma Palmer, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Barclay Davies, Cyfarwyddwr Cymru yn Bus Users UK, y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach, Elliot Swallow, Uwch Arweinydd Rhaglen Trafnidiaeth Cymru
